Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
UNBOXED yng Ngogledd Iwerddon
Darganfyddwch raglen ddigwyddiadau UNBOXED yng Ngogledd Iwerddon yn 2022
- Publication date

Digwyddiad About Us wnaeth ddechrau rhaglen UNBOXED yng Ngogledd Iwerddon, rhwng 15 a 21 Mawrth yn Sgwâr Guildhall Derry-Londonderry. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych wedi cael y cyfle i weld y sioe hon peidiwch â phoeni gan fod llawer o gyfleoedd eraill drwy gydol y flwyddyn i weld neu gymryd rhan mewn digwyddiadau UNBOXED. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Our Place in Space llwybr cerfluniau 10km epig sy'n mynd â chi ar daith syfrdanol ar draws cysawd yr haul sy’n ymweld â
- Derry-Londonderry 22 Ebrill i 22 Mai
- Belfast (Divis a'r Mynydd Du) 11 Mehefin i 10 Gorffennaf
- Amgueddfa Drafnidiaeth Ulster a Llwybr Arfordir Gogledd Down 17 Medi - 16 Hydref
- Mae StoryTrails yn mynd â chi ar daith drochi AR a VR hudol i hanes cudd Omagh 1-2 Gorffennaf
- Camwch i mewn i’r Dreamachine ac archwiliwch botensial diddorol eich meddwl drwy daith drochi i olau, sain, lliw a'ch dychymyg eich hun, fydd yn ymweld â Belfast ddiwedd yr haf
Gallwch hefyd gymryd rhan drwy gofrestru i fod yn un o 20,000 o 'Oleuwyr' a fydd yn goleuo'r dirwedd fel rhan o brofiad Green Space Dark Skies yn Nyffryn Lagan - County Down (30 Ebrill), Sperrin – County Tyrone (25 Mehefin) ac Arfordir Causeway - County Antrim (2 Gorffennaf).