1
Read

Llysgenhadon UNBOXED yn ymweld â Chaeredin

Fe dreuliodd aelodau Rhaglen Llysgenhadon UNBOXED benwythnos yng Nghaeredin yn ystod cyfnod y gwyliau blynyddol

Publication date

Mae UNBOXED wedi dewis un ar ddeg o ymarferwyr creadigol sy'n dod i'r amlwg, sydd bob un wedi cyfrannu at y comisiynau, i fod yn rhan o Raglen Llysgenhadon fanwl.

Y nod yw eu cefnogi ar y llwybr gyrfa o'u dewis trwy roi cyfleoedd hyfforddi, datblygu a rhwydweithio iddynt a'r cyfle i ddysgu oddi wrth ei gilydd fel rhan o gydweithfa.

Y penwythnos diwethaf, cawsom gwrdd ag wyth o'n Llysgenhadon am benwythnos llawn yng Nghaeredin a gynlluniwyd yn benodol ar eu cyfer, lle maent yn cael y cyfle i ddod i adnabod ei gilydd, gan brofi llawer o ddiwylliant gan gynnwys un o gomisiynau UNBOXED – Dreamachine.

Edinburgh Castle on an overcast day

Uwchgynhadledd Diwylliant Rhyngwladol Caeredin

Dechreuodd gweithgareddau'r penwythnos gyda digwyddiad brecwast a gynhaliwyd gan UNBOXED ar gyfer Uwchgynhadledd Diwylliant Rhyngwladol Caeredin, a oedd â’r thema, Diwylliant a Dyfodol Cynaliadwy. Cyflwynodd dau o'n llysgenhadon ifanc, Lucy Wheeler (Technolegydd Creadigol a Phrif Ddatblygwr ar StoryTrails) a Rha Hira Arayal (aelod o Gwmni Ifanc GALWAD sydd wedi ysgrifennu un o'r monologau ar gyfer y sgript ddrama deledu) sgyrsiau yn rhannu eu profiad o UNBOXED i'r rhai eraill a oedd yn bresennol a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr rhyngwladol yn mynychu'r uwchgynhadledd, cymysgedd o Weinidogion, swyddogion y llywodraeth, cynrychiolwyr diwylliannol, a chynrychiolwyr ieuenctid.

Diwylliant a Dyfodol Cynaliadwy

Ein stop nesaf fel rhan o’r uwchgynhadledd diwylliant oedd Senedd yr Alban, lle mynychodd ein llysgenhadon sesiwn ar Ddiwylliant ac Addysg, gyda sgyrsiau ar bwysigrwydd annog creadigrwydd mewn pobl ifanc gan Ofelia Omoyele Balogun, Rosemary Nalden, Deirdre Quarnstrom ac Andreas Schleicher.

Mae'r sesiwn ar gael i'w gwylio yma

Dreamachine

Dreamachine; ar hyn o bryd mewn cyfnod preswyl yng Nghanolfan Sglefrio Murrayfield tan 25 Medi, mae'n brofiad trochi sydd wedi'i gynllunio i ddatgloi potensial rhyfeddol y meddwl. Wedi ei greu yn gyfan gwbl gan olau a cherddoriaeth, bydd byd lliwgar y Dreamachine yn datblygu y tu ôl i'ch llygaid caeedig - wedi'i greu gan eich ymennydd eich hun ac yn gwbl unigryw i chi. Anogwyd ein llysgenhadon i orwedd yn ôl, cau eu llygaid, a chaniatáu i'r sioe olau ddechrau; gan brofi eu caleidosgôp mewnol eu hunain wedi'u gosod i gyfansoddiadau nefol Jon Hopkins.

Datblygu casgliad o bobl greadigol

Roedd y daith hon yn ffordd wych o gychwyn rhaglen llysgenhadon UNBOXED a gallwn ni ddim aros i weld ble y bydd hi’n mynd o fan hyn!