1

Teithiau, ymweliadau a gewithgareddau personol

Gwahodd grwpiau ysgol i ymgysylltu yn uniongyrchol â rhai o’n prosiectau

Sylwer: mae’r gweithdai canlynol ar gael yng Ngogledd Iwerddon yn unig.

Gweithdai Animeiddio

Archwilio Bywyd yn y Bydysawd

Crëwch animeiddiad unigryw yn y gweithdy diwrnod o hyd hwn yn yr ysgol

Who else lives in our solar system?

Cyflwynir y gweithdy diwrnod o hyd am ddim hwn, sydd ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, gan Our Place in Space, ac mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr 8–11 oed greu eu hanimeiddiadau eu hunain wedi’u hysbrydoli gan y syniad o fywyd yn y bydysawd. Ar ôl dysgu rhai o egwyddorion sylfaenol animeiddio, bydd y myfyrwyr yn cynllunio ac yn sgriptio eu hanimeiddiadau eu hunain mewn timau – ac yna, gan ddefnyddio meddalwedd arbennig, byddant yn nodi ac yn creu eu fideos.

Mae’r gweithdy animeiddio hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon e-bost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

     

Archwilio Cysawd yr Haul

Crëwch animeiddiad wedi’i ysbrydoli gan blaned yn y gweithdy diwrnod o hyd hwn

Cyflwynir y gweithdy diwrnod o hyd am ddim hwn, sydd ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, gan Our Place in Space. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr 8–11 oed greu eu hanimeiddiadau eu hunain wedi’u hysbrydoli gan gysawd yr haul.

Bydd y myfyrwyr yn cael eu tywys trwy dechnegau animeiddio sylfaenol, difyr a hygyrch – cyn symud i dimau, lle byddant yn cynllunio ac yn sgriptio animeiddiad byr ar eu dewis o blaned. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, byddant yn gweithio ar iPads ac offer animeiddio arall i nodi, creu ac allgludo eu fideos gorffenedig.

Mae’r gweithdy animeiddio hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon ebost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

 

    

Gweithdai Sain Digidol

Cerddoriaeth Arallfydol

Crëwch seinwedd o seiniau cysawd yr haul

Cyflwynir y gweithdy sain digidol dwy awr o hyd am ddim hwn, sydd ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, gan Our Place in Space. Mae’n dangos i fyfyrwyr sut i gynhyrchu eu seinwedd eu hunain gan ddefnyddio cymhwysiad am ddim GarageBand cwmni Apple.

Bydd myfyrwyr yn defnyddio GarageBand i recordio ac yna trin seiniau cysawd yr haul – gan archwilio’r seiniau ac yna eu dehongli yn greadigol i gynhyrchu seinwedd. Trwy wneud hynny, byddant yn dysgu rhai o egwyddorion sylfaenol meddalwedd sain digidol a’i ddefnyddiau lu.

Mae’r gweithdy sain digidol hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon ebost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

 

    

Y Podlediad Planedau

Crëwch eich podlediad gofod eich hun gan ddefnyddio meddalwedd am ddim Apple

Cyflwynir y gweithdy dwy awr o hyd am ddim hwn mewn ysgolion, sydd ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, gan Our Place in Space, ac mae’n dangos i fyfyrwyr sut i gynhyrchu eu podlediad eu hunain yng ngymhwysiad am ddim GarageBand cwmni Apple.

Bydd y disgyblion yn cael eu tywys drwy’r broses o ddatblygu podlediad â thema’r gofod: ysgrifennu sgript, recordio cynnwys, ychwanegu canig ac yna golygu eu gwaith yn GarageBand.

Mae’r gweithdy sain digidol hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon e-bost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

      

Gweithdy Ffilm

Adroddiad Newyddion Rhyngalaethol

Beth sy’n newydd yng nghysawd yr haul?

Cyflwynir y gweithdy ffilm diwrnod o hyd am ddim hwn ar gysawd yr haul, sydd ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, gan Our Place in Space.

Bydd y diwrnod yn cychwyn gyda throsolwg o gysawd yr haul: beth yw hi a lle ein planed ynddi. Yna bydd y myfyrwyr yn sgriptio ac yn ffilmio eu hadroddiad newyddion eu hunain ar gysawd yr haul. Beth allai gwylwyr fod eisiau ei wybod amdani? A ydych chi wedi darganfod rhywbeth newydd ymhlith y planedau?

Mae’r gweithdy ffilm hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon e-bost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

     

Glanio ar y Lleuad

Sut deimlad oedd cerdded ar y Lleuad – a sut oedd hi’n teimlo ei wylio yn digwydd?

Cyflwynir y gweithdy ffilm diwrnod o hyd am ddim hwn mewn ysgolion, sydd ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, gan Our Place in Space, ac mae’n canolbwyntio ar y glaniad ar y Lleuad ym 1969.

I gychwyn, bydd y myfyrwyr yn cael trosolwg o’r glaniad eiconig ar y Lleuad – ac yna’n cael eu gwahodd i gynllunio, sgriptio a ffilmio eu ‘glaniad Lleuad’ eu hunain gan ddefnyddio sgrin werdd a thechnegau ffilmio eraill. Byddant yn cael eu hannog i ystyried arwyddocâd y glaniad cyntaf ar y Lleuad, sut yr oedd y gofodwyr yn teimlo pan wnaethant lanio – a sut y byddai pobl ym mhedwar ban byd wedi teimlo wrth iddyn nhw wylio gyda rhyfeddod ar y teledu.

Mae’r gweithdy ffilm hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon ebost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

 

Gweithdai Addysg Minecraft

Cysawd yr Haul

Dysgwch fwy am gysawd yr haul yn Minecraft

Ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, cyflwynir y gweithdy gêm am ddim hwn mewn ysgolion gan Our Place in Space. Mae'n defnyddio Minecraft i feithrin gwell dealltwriaeth o gysawd yr haul.

Gofynnir i fyfyrwyr 5–11 oed ail-greu cysawd yr haul o fewn modd creadigol Minecraft. Bydd yn rhaid iddynt ystyried maint cymharol pob planed a'r pellteroedd rhyngddynt. Er enghraifft: pe bai Mercher yn faint un bloc Minecraft, beth fyddai meintiau'r planedau eraill yng nghysawd yr haul?

Mae’r gweithdy Minecraft hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon e-bost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

Ni a Nhw

A ddylid hyd yn oed fod 'Ni' a 'Nhw'?

Ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, cyflwynir y gweithdy am ddim hwn mewn ysgolion gan Our Place in Space. Mae'n defnyddio Good Trouble o Minecraft Education Edition i archwilio mudiadau cyfiawnder cymdeithasol pwysig o hanes.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'Ni' a 'Nhw' – ac a ddylid bod 'Ni' a 'Nhw' hyd yn oed? Oni ddylem siarad am 'Ni', bodau dynol sy'n byw ar yr unig blaned sy'n gallu cynnal bywyd? Ac os felly, oni ddylem fod yn cynorthwyo ein gilydd a'r blaned yr ydym yn byw arni? Yn anffodus, fel y mae’r gweithdy hwn yn archwilio, nid yw hyn bob amser wedi digwydd.

Mae’r gweithdy Minecraft Education Edition hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon e-bost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

 

Gweithdai Scratch

Cysawd yr Haul

Sut beth yw bod yn ofodwr yn y gofod?

Ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, cyflwynir y gweithdy am ddim hwn mewn ysgolion gan Our Place In Space. Mae'r gweithdy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr 5–11 oed greu eu stori gofod digidol eu hunain gan ddefnyddio llwyfan codio Scratch. Bydd myfyrwyr yn dysgu rhai egwyddorion codio sylfaenol ac yn datblygu gwell dealltwriaeth o gysawd yr haul a lle'r Ddaear ynddo ar yr un pryd.

Mae’r gweithdy Scratch hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon e-bost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

 

Space Invaders

Creu gêm gofod yn y gweithdy hwn yn yr ysgol

Ar gael i ysgolion cynradd yng Ngogledd Iwerddon, cyflwynir y gweithdy am ddim hwn mewn ysgolion gan Our Place in Space. Mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr 8–11 oed greu eu gêm eu hunain tebyg i Space Invaders gan ddefnyddio llwyfan codio Scratch.

Dan arweiniad hyfforddwyr, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio Scratch i wneud eu gêm eu hunain – a byddant yn mynd ymlaen i ddysgu sut i'w addasu, gan ei gwneud yn haws neu'n anoddach i'w gwrthwynebwyr eu curo. Byddant hefyd yn cael cyfle i ddangos eu gemau i weddill y dosbarth.

Mae’r gweithdy Scratch hwn yn un o 10 gweithdy am ddim mewn ysgolion a ysbrydolwyd gan Our Place in Space. Gellir addasu’r gweithdy yn rhwydd i gyd-fynd â phynciau dysgu eraill yn y cwricwlwm, a/neu ei ymgorffori mewn gwersi yn y dyfodol. Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich ysgol drwy anfon e-bost i learning@ourplaceinspace.earth

Sylwer y bydd yr holl offer ac asedau ar gyfer y gweithdy yn yr ysgol hwn yn cael eu darparu gan Nerve Centre

 

Gweithdai Ysgolion - PoliNations

Dathlwch harddwch ac amrywiaeth yn y gweithdai hyn ar y safle

Mae PoliNations yn dod â gwerddon syfrdanol o blanhigion a blodau i ganol Birmingham ym mis Medi. Bydd cyfres o weithdai yn Sgwâr Fictoria yn galluogi myfyrwyr i archwilio'r ardd goedwig, rhyngweithio â'r planhigion a chreu rhywbeth y gallan nhw fynd ag ef adref gyda nhw – gan eu hannog i ofalu am ein planed a dathlu ei hamrywiaeth.

Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am raglen weithdai PoliNations cyn bo hir. Cyn i'r cyfle i gadw lle agor ym mis Mai, gallwch fynegi diddordeb eich ysgol mewn mynd i weithdy drwy anfon e-bost i takepart@triggerstuff.co.uk