1

The People's Piazza ar BBC2

David Olusoga, Gynhyrchydd Gweithredol StoryTrails yn cyflwyno rhaglen o’r enw The People’s Piazza, A History of Covent Garden, i'w darlledu ar BBC2 ddydd Sul 13 Tachwedd

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "The People's Piazza ar BBC2" (PDF)

Bydd yr hanesydd, y cyflwynydd teledu a Chynhyrchydd Gweithredol StoryTrails, David Olusoga yn cyflwyno ffilm ddogfen i gyd-fynd â StoryTrails, sef The People's Piazza, A History of Covent Garden, fydd yn cael ei darlledu ar BBC Two ddydd Sul 13 Tachwedd am 9pm yn dilyn dangosiad cyntaf y ffilm yng Ngŵyl Ffilm BFI Llundain ym mis Hydref fel rhan o  raglen LFF For Free. Mae StoryTrails, profiad storïol ymgolli mwyaf y DU, wedi bod yn teithio ledled y DU dros yr haf, o Omagh i Dundee ac o Abertawe i Slough. Bydd StoryTrails a gomisiynwyd yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn adrodd cannoedd o straeon lleol a hanesion cudd gan ddefnyddio technolegau rhyngweithiol newydd cyffrous,.

Gan adrodd hanes un o fannau cyhoeddus mwyaf adnabyddus Lloegr, Piazza Covent Garden, o'i flynyddoedd cynnar fel maes chwarae i'r bonedd, dirywio i fod yn adfail ac yna ei adfer, bydd yr hanesydd, y cyflwynydd teledu a Chynhyrchydd Gweithredol StoryTrails, David Olusoga yn camu'n ôl mewn amser i archwilio hanes tymhestlog eiconig y piazza. Dros bedair canrif mae Piazza Covent Garden wedi bod yn farchnad, yn fan cyfarfod, ac yn safle protest, perfformiad ac adnewyddu. Yn y rhaglen ddogfen hon mae David Olusoga yn archwilio ei hanes, a gyda chymorth llu o arbenigwyr a llygad-dystion, yn cyfleu ysbrydion y gorffennol – masnachwyr marchnad, plant amddifad, artistiaid ac ymgyrchwyr.

Cyd-gynhyrchwyd y ffilm gan StoryFutures Academy, y ganolfan genedlaethol dros adrodd straeon ymgolli, y tîm y tu ôl i StoryTrails a'r BFI, ac mae’n cyfuno llawer  o ffilmiau archif, gan gynnwys Every Day Except Christmas (1957) gan Lindsay Anderson o Archif Genedlaethol y BFI  gyda thechnegau cynhyrchu rhithwir i ddod â hanes y man dinesig eiconig hwn yn fyw.