Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
StoryTrails yn Omagh
Gwahodd trigolion i weld Omagh yn wahanol wrth i gyfres o ddigwyddiadau adrodd straeon arloesol am ddim ledled y DU gael eu lansio
Published:
Lawrlwythwch y datganiad llawn 'StoryTrails in Omagh' i'r wasg (PDF)
Mae StoryTrails, profiad adrodd straeon ymgolli mwyaf y DU, yn gwahodd trigolion Omagh ac ymwelwyr i glywed straeon am y dref nas adroddwyd o’r blaen drwy dechnolegau amlgyfrwng arloesol o 1 Gorffennaf. Mae StoryTrails, sy'n rhan o Creativity UNBOXED, yn dechrau gyda digwyddiad byw am ddim ar 1 ac 2 Gorffennaf yn Omagh, cyn iddo ymweld â 14 lleoliad arall ledled y DU. Mae wedi’i ganoli o amgylch Llyfrgell Omagh ac ar strydoedd Omagh ei hun, ac mae'n cynnwys profiadau digidol a fydd yn caniatáu i bobl gael profiad gwbl newydd o’r dref drwy hud a lledrith realiti estynedig (AR) a realiti rhithwir (VR).
Mae llwybr AR, sy'n benodol i Omagh gyda mynediad iddo drwy ddyfeisiadau symudol, yn cymryd fel ei fan cychwyn y cwestiwn 'a ddylwn i aros neu a ddylwn i fynd?' Mae'n edrych ar y rhesymau pam y mae pobl wedi gadael y dref dros 6 degawd o hanes Omagh, gan ddefnyddio archifau lleol a chenedlaethol, o gasgliadau ffilmiau sine a ffilmiau fideo cartref i rai'r BBC a Sefydliad Ffilm Prydain, gan rannu straeon lleol o'r gorffennol a'r presennol mewn ffordd gwbl newydd.
Y canlyniad yw cipolwg ar ffawd newidiol Omagh a'i phoblogaeth wedi’i adrodd gan bobl gyffredin, o gau'r rheilffordd i ddiffyg cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r trigolion lleol presennol Kathy Dunphy a James McAnespie, yn rhannu eu gobaith yn frwdfrydig ar gyfer dyfodol y dref. Mae’r llwybr wedi’i leisio gan y casglwr achau a’r tywysydd teithiau adnabyddus o Ogledd Iwerddon, Vincent Brogan, ac mae ar gael i'w lawrlwytho drwy gydol 2022. Bydd pob tref neu ddinas ar y daith 15 lleoliad yn cynnwys llwybr AR sy'n benodol i'r lleoliad hwnnw.