1

StoryTrails yn Wolverhampton

Yr actores Frances Barber yn adrodd hanes tecstilau yn Wolverhampton wrth i brofiad adrodd straeon ymgolli arloesol ledled y DU gyrraedd y ddinas

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "StoryTrails yn Wolverhampton" (PDF)

Mae'r actores Frances Barber, a enwebwyd am wobr Wulfrunian ac Olivier, yn lleisio llwybr realiti estynedig drwy'r ddinas sy'n edrych yn ôl dros y rhan a chwaraeodd Wolverhampton yn y diwydiant tecstilau a ffasiwn, o waith tecstilau Courthaulds i siop adrannol Beatties a chanol y ddinas yn y 1960au. Mae'r straeon sy'n cael eu cynnwys ar y llwybr ymhlith cannoedd sy'n cael eu hadrodd trwy dechnolegau amlgyfrwng arloesol fel rhan o’r profiad adrodd straeon ymgolli mwyaf y DU, StoryTrails, dros yr haf.

Mae StoryTrails, sy'n rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, yn cynnwys profiadau digidol sy'n caniatáu i drigolion gael profiad gwbl newydd o Wolverhamptom drwy realiti estynedig (AR), a realiti rhithwir (VR) a map ymgolli o’r ddinas. Ar 6 a 7 Awst, bydd gweithgareddau wedi’u canoli o amgylch Llyfrgell Wolverhampton ac ar strydoedd Wolverhampton ei hun. Mae'r ddinas yn un o 15 lleoliad ledled y DU y mae StoryTrails yn ymweld â nhw dros yr haf, o Fryste i Dundee.

Mae'r llwybr realiti estynedig trwy Wolverhampton, y ceir mynediad iddo drwy ddyfeisiadau symudol, yn arwain pobl o lawr ffatri gwaith tecstilau Courtaulds, cyflogwr mawr o 1926 i 1970 y bu ei simneiau ffatri yn flaenllaw ar nenlinell y ddinas, i hudoliaeth yr ystafell bowdwr pinc yn siop adrannol Beatties a oedd yn rhan o brofiad siopa yn Wolverhampton o 1877 tan iddi gau yn 2019; yn ogystal â chynnig blas ar edrych ar ffenestri siopau yn y 1960au a fyddai’n cynnwys ffrogiau beiddgar a ‘hotpants’.

Crëwyd y llwybrau drwy ddefnyddio ffilmiau’r BBC a Sefydliad Ffilm Prydain ac archif lleol i gyflwyno ffenestr i'r gorffennol. Gall ymwelwyr fenthyg dyfeisiau o'r llyfrgell a dilyn llwybrau realiti estynedig tywysedig drwy gydol y digwyddiad deuddydd yn ogystal â dilyn y llwybr yn annibynnol drwy lawrlwytho ap StoryTrails ar eu dyfeisiau eu hunain.

Tu mewn i’r llyfrgell, mae map ymgolli Wolverhampton yn datgelu deg stori am bobl leol a thirnodau cyfarwydd, megis y cerflun 'The Man on the Horse' - sy'n portreadu'r Tywysog Albert, a ddadorchuddiwyd gan y Frenhines Victoria ei hun - a Major's Fish and Chip Shop - sefydliad coginiol a sefydlwyd ym 1975. Cafodd y map 3D ei greu gan Grace Gelder drwy broses o sganio pobl ac adeiladau. Chwaraeir y ffilmiau 15 munud ar ddolen drwy gydol y dydd ac mae modd gwylio 20 stori arall ar iPads yn y llyfrgell.

Mae Grace a Sian Macfarlane, a greodd y llwybr, yn ddau o 50 o bobl greadigol lleol a rhai sy’n dod i’r amlwg o bob cwr o’r DU a ddewiswyd i gymryd rhan yn natblygiad StoryTrails ac elwa ar gyfleoedd hyfforddi arbenigol a mentora gan StoryFutures Academy, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Adrodd Straeon Ymgolli, y tîm y tu ôl i StoryTrails. Mae Academi StoryFutures yn cael ei rhedeg gan Royal Holloway, Prifysgol Llundain a'r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS).