Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
StoryTrails yn Blackpool
Gwahodd trigolion i weld Blackpool yn wahanol wrth i gyfres o ddigwyddiadau adrodd straeon arloesol, rhad ac am ddim, lansio ledled y DU
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "StoryTrails yn Blackpool " (PDF)
Mae StoryTrails, profiad adrodd straeon ymgolli mwyaf y DU, yn gwahodd trigolion ac ymwelwyr â Blackpool i ddod i wybod mwy am straeon nad ydynt wedi’u hadrodd am y dref drwy dechnolegau aml-gyfrwng arloesol, o lwybr realiti estynedig yn datgelu hanes cymunedau LHDTQ + Blackpool i fap ymgolli yn gweddnewid adeiladau eiconig y dref, fel Tŵr Blackpool a Sinema’r Regent, a thrip nôl i Blackpool ar ei hanterth yn y 1950au trwy gyfrwng realiti rhithwir.
Bydd StoryTrails, rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, yn dechrau yn Blackpool gyda dau ddiwrnod o ddigwyddiadau am ddim ar 16 a 17 Gorffennaf, yn rhan o daith ledled y DU i 15 o drefi a dinasoedd. Llyfrgell Blackpool a strydoedd Blackpool ei hun fydd canolbwynt y digwyddiadau, sy’n cynnwys profiadau digidol sy’n caniatáu i bobl brofi’r dref mewn ffordd gwbl newydd trwy hud realiti estynedig, realiti rhithwir a sinema ymgolli.
Bydd llwybr realiti estynedig, sy’n benodol i Blackpool, trwy ddefnyddio dyfeisiau symudol, yn gwahodd ymwelwyr i ddysgu mwy am hanes LHDTQ+ y dref. O’r 1930au a ‘sioe ryfeddodau’ ddrwg-enwog Colonel Barker o dan y pier i ddyddiau tywyll y 1980au a’r 1990au. Mae’n cynnwys cymeriadau fel y frenhines drag, Divine, a pherchennog clwb nos chwedlonol Blackpool, Funny Girls, Basil Newby MBE, a anrhydeddwyd yn 2014 am wasanaethau i fusnes a chymuned LHDTQ+ Blackpool. Cyflwynydd hirsefydlog Funny Girls sy’n lleisio’r llwybr a defnyddir ffilm cine, fideos cartref a ffotograffiaeth gan y BBC, Sefydliad Ffilmiau Prydain ac archifau lleol i gyflwyno’r gorffennol a’r presennol mewn modd cwbl newydd.
Mae’r teithio trwy amser yn parhau y tu mewn i’r llyfrgell ar 16 a 17 Gorffennaf pan wahoddir ymwelwyr i fynd i fydoedd a grëwyd yn ddigidol gan ddefnyddio penffonau realiti rhithwir (VR). Ymhlith y 7 stori VR sydd ar gael ym mhob arhosfan ar daith StoryTrails o’r DU, y mae un am ddyn a fu’n byw yn Blackpool, Mike Hatjoullis, mewnfudwr ail genhedlaeth Cypraidd Groegaidd, y cyrhaeddodd ei rieni yn y DU yn y 1930au. Mae’r stori yn canolbwyntio ar Blackpool ar ei hanterth yn y 1950au pan oedd tad Mike yn rhedeg bwyty adnabyddus ar lan y môr, Tomlinson’s Cafe. Wedi astudio yn y Coleg Celf Brenhinol gydag artistiaid fel David Hockney a Ridley Scott, daeth Mike yn ddylunydd tecstiliau dylanwadol ac yn feistr gwneud print ac mae ei ddarluniadau enfawr cyfoes, wedi’u torri o linoleum, o Blackpool wedi’u hanimeiddio yn y profiad VR, a grëwyd gan ShroomStudio.
Gall ymwelwyr hefyd ddisgwyl canfod eu hunain yn esgidiau merch yn ei harddegau sy’n cicio yn erbyn y tresi wrth iddi ddarganfod gorffennol pync ei mam; cymryd rhan mewn un o lawer o rêfs De-Asiaidd yn ystod y dydd a oedd yn digwydd ledled y DU yn y 1980au a’r 1990au; a chlywed beth yr oedd cenedlaethau cynharach yn credu y byddai bywyd fel erbyn heddiw.
Y tu mewn i’r llyfrgell, mae map ymgolli rhithwir o’r dref wedi’i greu gan ddefnyddio straeon lleol a sganiau 3D o adeiladau a lleoedd eiconig Blackpool, fel Tŵr Blackpool, y glan môr enwog, Parc Stanley a Sinema Regent sydd wedi ei atgyfodi. Edrychir ar y map ar sgrin sinema seicloramig a bydd y profiad 15 munud o hyd yn chwarae dro ar ôl tro trwy gydol y dydd. Mae fersiwn estynedig o’r map ar gael ar iPads y tu mewn i’r llyfrgell hefyd.
Roedd y bobl greadigol dalentog o Blackpool Joseph Doubtfire, Kezi Gardom, Lara Kob a Leo Mercer ymysg 50 o bobl greadigol sy’n dod i’r amlwg o bob rhan o’r DU a ddewiswyd i gymryd rhan yn natblygiad StoryTrails a chael budd o hyfforddiant arbenigol a chyfleoedd a mentora, pob un yn cyfrannu at brofiad StoryTrails Blackpool.