Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Rhaglen UNBOXED yng Cymru
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg (PDF) llawn 'Rhaglen UNBOXED yng Cymru'
Bydd digwyddiad awyr agored anhygoel, rhad ac am ddim, sy'n archwilio 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes drwy'r ffyrdd diddiwedd y mae pobl wedi'u cysylltu â'r bydysawd, natur, a'i gilydd yn agor yng Nghaernarfon heddiw.
Mae About Us / Amdanom Ni yn cyfuno gosodiadau amlgyfrwng a pherfformiad byw er mwyn trochi cynulleidfaoedd yn hanes y bydysawd, o'r Glec Fawr hyd heddiw. Wrth iddi fachlud, bydd Castell Caernarfon a’r Maes yn cael eu trawsnewid yn gynfas enfawr sy'n cyfuno animeiddio wedi'i fapio'n fyw â barddoniaeth, cerddoriaeth, a chorau byw o Gymru yn perfformio sgôr newydd sbon gan Nitin Sawhney CBE. Yn ystod ei wythnos yng Nghaernarfon, bydd About Us / Amdanom Ni yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Dre, Côr Kana a Chôr Eifionydd.
Mae’r beirdd o Gymru, Grug Muse a Llŷr Gwyn Lewis wedi ysgrifennu cerddi newydd ar gyfer sioeau byw About Us / Amdanom Ni, i’w cyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ystod y dydd, bydd gosodiadau fideo LED yn arddangos creadigrwydd plant a phobl ifanc o ysgolion cynradd yng Ngwynedd drwy gerddi ac animeiddiadau Scratch.