1

Gwahoddiad i’r cyhoedd fynd ar fwrdd SEE MONSTER

Llwyfan nwy Môr y Gogledd wedi’i drawsnewid yn osodiad celf cyhoeddus mawr yn Weston-super-Mare

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Gwahoddiad i’r cyhoedd fynd ar fwrdd SEE MONSTER" (PDF) 

Bydd SEE MONSTER, llwyfan alltraeth Môr y Gogledd wedi ei ddigomisiynu ac wedi’i droi’n un o osodiadau celf cyhoeddus mwyaf y DU, yn croesawu’r cyhoedd ar ei fwrdd am y tro cyntaf o ddydd Sadwrn 24 Medi yn y Tropicana ar lan y môr Weston-super-Mare. Nod y trawsnewidiad cyntaf o’i fath yn y byd hwn yw ysbrydoli sgyrsiau am ailddefnyddio, ynni adnewyddadwy, a thywydd mawr Prydain.

Mae SEE MONSTER, a gomisiynwyd fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, yn cynnwys pedair lefel hygyrch i’r cyhoedd wedi’u hanimeiddio gan raeadr 10 metr o uchder; sleid aml-lefel sy’n cynnig llwybr amgen drwy’r anghenfil, gosodiad cinetig 6,000 darn sy’n ffurfio cennau sgleiniog yr anghenfil; cerfluniau gwynt cinetig; gardd wyllt o laswellt, planhigion a choed wedi’u dewis i ffynnu mewn microhinsawdd glan môr; arbrofion cynhyrchu ynni cynaliadwy wedi’u dylunio gan artistiaid; amffitheatr gyda seddi, golygfeydd heb eu hail allan i’r môr o’r helidec ac, ar ei waelod, stiwdio darlledu.

Mae’r adeiladwaith cyfan yn 35 metr o daldra – 15 metr yn dalach nag Angel y Gogledd a dim ond 11 metr yn llai na Cholofn Nelson ac mae modd ei weld o lwyfan gwylio SEE MONSTER yn y Tropicana, glan y môr, y traeth ac ar fwrdd am ddim.

Mae trawsnewid strwythur diwydiannol yn osodiad cyhoeddus sy’n addas i ymwelwyr yn gyflawniad peirianneg digynsail sydd wedi’i arwain gan stiwdio greadigol o Leeds, NEWSUBSTANCE. Ym mis Gorffennaf, cafodd y llwyfan 450 tunnell ei gludo dros y môr ar fad mor fawr â chae pêl-droed i’r traeth yn Weston-super-Mare, sy’n enwog am yr amrediad llanw uchaf ond un yn y byd. Yna cafodd ei godi gan graen dros y morglawdd a’i roi ar goesau a oedd wedi’u hadeiladu eisoes yn y Tropicana.­

Bydd Labordy Gardd y SEE MONSTER, yn cynnwys coed 9 metr o uchder, planhigion a glaswellt, wedi’u dewis i wrthsefyll gwyntoedd a thymhestloedd hallt yr Iwerydd; bydd rhu’r SEE MONSTER, sef y rhaeadr, yn ailgylchu’n barhaus drwy’r pyllau yn ei waelod; a bydd effaith y tywydd yn cael ei weld a’i glywed wrth i’r gwynt symud drwy’r gosodiadau a’r ardd, gyda’r nod o ysgogi trafodaeth am yr wyddoniaeth y tu ôl i’r tywydd ym Mhrydain a sut y gall gefnogi dyfodol cynaliadwy.

Mae WindNest, wedi’i ddylunio gan yr artist Trevor Lee, yn dod â chelf ac ynni adnewyddadwy ynghyd ac yn cynnwys dau bod yn yr awyr sy’n cylchdroi, gan gynhyrchu ynni glân drwy dechnoleg gwynt a solar a fydd yn pweru’r system dyfrhau ar gyfer y Labordy Gardd. Mae’r WindNest wedi’i greu mewn cydweithrediad â Land Art Generator Initiative, tîm ynni adnewyddadwy wedi’i ei lywio gan gelf a dylunio sy’n chwilio am atebion arloesol i helpu i gyflawni dyfodol carbon sero-net.

Mae’r cerflunydd cinetig, Ivan Black, wedi creu dau gerflun sy’n cynrychioli’r haul a’r lleuad sy’n cael eu symud gan y gwynt. Mae rhannau o’r cerfluniau’n cylchdroi ar eu hechelau cydffurf ac wedi’u cynllunio i fod yn symud yn anhrefnus ond yn osgeiddig yn barhaus. Wedi’u gwneud o alwminiwm, maent wedi’u cynllunio i wrthsefyll yr elfennau yn enwedig yr halen cyrydol yn awyr y môr ac i roi ymdeimlad o ryfeddod ynghylch sut maen nhw’n gweithio. Mae Ivan yn eu disgrifio fel gweithiau peirianegol gymaint â chelf gan ddweud: “Rwy’n gobeithio y byddan nhw’n ysbrydoli eraill i feddwl yn greadigol am beirianneg.”