1

PoliNations Ardd Dros Dro

Birmingham yn paratoi ar gyfer gŵyl ardd dros dro epig fis Medi eleni wrth i gannoedd o bobl leol ddechrau tyfu blodau gold Mair

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "PoliNations Ardd Dros Dro" (PDF)

Heddiw, 10 Mai 2022, dechreuodd cannoedd o blant ac oedolion ledled Birmingham dyfu blodau i baratoi ar gyfer gŵyl ardd dros dro ysblennydd PoliNations sy'n cael ei chynnal rhwng 2-18 Medi. Wedi'i chynhyrchu gan Trigger Collective fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, bydd PoliNations yn troi canol dinas Birmingham yn werddon drefol ar gyfer dathliad o'r trawsbeillio sydd wedi llywio diwylliant Prydain.

Dros y 4 mis nesaf, bydd dros 1000 o bobl o 60 grŵp cymunedol amrywiol ar draws y ddinas yn tyfu blodau calendula, a elwir yn gyffredinol yn gold Mair. Bydd y prosiect yn cyrraedd penllanw wrth gyd blannu 600 o flodau gold Mair yng ngardd dros dro hudolus PoliNations. Ar ôl yr ŵyl bythefnos, bydd yr holl blanhigion yn mynd yn ôl allan i Birmingham i ail-wyrddio'r ddinas.

Yn agored i bawb, mae PoliNations yn rhan o'r UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, a bydd yn dod â'r rhaglen ddiwylliannol ar gyfer Gŵyl Birmingham 2022 i ben mewn modd trawiadol. Trwy ddigwyddiadau, gweithdai, a pherfformiadau am ddim gan gynnwys cerddoriaeth fyw, dawns, gair llafar a drag, bydd yr ŵyl yn dathlu'r harddwch, y lliw, a’r amrywiaeth sy'n ffurfio garddwriaeth a diwylliant Prydain. Bydd artistiaid sy’n dod i amlygrwydd a rhai enwog o Birmingham a thu hwnt yn perfformio dan gysgod coed pensaernïol enfawr ac wedi'u hamgylchynu gan filoedd o blanhigion lliwgar.

Mae'r grwpiau sy'n rhan o'r prosiect tyfu torfol yn adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Birmingham, yn amrywio o ieuenctid i grwpiau oedrannus, o arddwyr arbenigol i ddechreuwyr llwyr, gan gynnwys grwpiau ffoaduriaid, grwpiau menywod, a grwpiau gweithredu anabledd. Ymysg y cymunedau lleol dan sylw mae Saheli Hub, grŵp menywod a merched sy'n canolbwyntio ar les cymunedol; Kinmos, elusen iechyd meddwl; Women with Hope, elusen sy'n ymroddedig i wella bywydau menywod sy'n geiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr; Open Theatre, gan weithio gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu ar theatr gorfforol ddi-eiriau; y Clwb Tsiec a Slofacia, sy'n hybu lles a diwylliant y gymuned Tsiec a Slofac sy'n byw yn y DU; y grŵp tyfu gwirfoddol Highbury Orchard Community; ac Eglwys Gadeiriol Birmingham.