1
Go

Rhaglen lawn ar gyfer mis Medi

Rhaglen lawn ar gyfer mis Medi gan UNBOXED

Date and time

September 2022

Mae mis Medi yn fis arbennig o brysur i UNBOXED gyda sawl prosiect yn mynd yn fyw, ochr yn ochr ag eraill sydd eisoes ar waith. Mae'r cyfan yn ganlyniad i gydweithio, a welodd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, celf, mathemateg, dylunio, pensaernïaeth, garddwriaeth a mwy yn dod at ei gilydd. Maen nhw hefyd yn boblogaidd iawn.

Y penwythnos diwethaf, agorodd PoliNations mewn ffordd ysblennydd, gan drawsnewid Sgwâr Fictoria hanesyddol Birmingham yn ardd yng nghanol y ddinas gyda choed, llwyni a mwy na 6,000 o flodau wedi'u plannu o dan orchudd o goed pensaernïol a grëwyd yn arbennig. Mae'r gosodiad, sydd am ddim ac yn parhau tan 18 Medi, eisoes yn denu torfeydd, gyda phenwythnos agoriadol prysur iawn. Mae PoliNations wedi'i ysbrydoli gan wreiddiau byd-eang planhigion a phobl y DU ac mae’n ddathliad gwych, gyda llawer i'w weld a'i wneud i bobl o bob oed, felly ni ddylid ei fethu.

Fe wnaeth Dandelion hefyd lwyfannu gŵyl yn Inverness dros y penwythnos. Yn dilyn yr ŵyl lwyddiannus yn Glasgow, roedd unwaith eto yn cyflwyno cerddoriaeth fyw – gan gynnwys Del Amitri, King Creosote a llu o rai eraill – a gweithgareddau yn gysylltiedig â thyfu bwyd. Ers ei lansio ym mis Ebrill, mae Dandelion yn llythrennol ac yn drosiadol wedi bod yn hau hadau ar draws yr Alban, gyda digwyddiadau a gweithgareddau gyda’r nod o ysbrydoli unigolion a chymunedau, a phobl ifanc yn arbennig, i ddechrau tyfu pethau. Cadwch lygaid ar agor am y rhaglen o gannoedd o ddigwyddiadau cynhaeaf sy'n cael eu cynnal rhwng 9 a11 Medi.

Yr wythnos diwethaf gwelwyd The Awakening gan SEE MONSTER, gyda glan y môr Weston-super-Mare dan ei sang o bobl ar gyfer sioe drôn fawreddog a gynhaliwyd dros dri mis. Gallwch wylio trawsnewidiad SEE MONSTER, o'r llwyfan gwylio ac edrychwch am weithgareddau eraill, wrth iddo baratoi i gael pobl ar ei fwrdd.

Yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn, bydd GALWAD yn mynd â Chymru 30 mlynedd i'r dyfodol ar gyfer prosiect sy'n gwthio ffiniau o ran sut caiff straeon eu hadrodd, gyda chymeriadau a straeon yn cysylltu ar draws dramâu teledu, perfformiadau byw, cyfryngau cymdeithasol a newyddion.

Mae GALWAD yn stori sy'n datblygu mewn amser real o ddydd Llun 26 Medi i ddydd Sul 2 Hydref. Ysbrydolwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015), polisi nodedig Cymru sy'n rhoi hawliau cenedlaethau'r dyfodol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, Bydd yn cael ei ffrydio'n fyw ar sianeli digidol dros yr wythnos, gan arwain at ddarllediad pedair awr ar Sky Arts ar ddydd Sul 2 Hydref, gyda darllediad byw o'r diweddglo o Flaenau Ffestiniog yng ngogledd Cymru, ac yna i ddilyn, drama deledu 60 munud wedi'i gosod yn 2052.

Ymhlith prosiectau eraill y mis hwn mae Dreamachine, sydd newydd orffen ei gyfnod hynod boblogaidd yn Belfast ac sy'n parhau yng Nghaeredin tan 25 Medi. Os gallwch fynd i’r ddinas hyfryd honno, mae tocynnau teithio nawr ar gael, felly ceisiwch ragor o wybodaeth os gallwch chi. Hyd yn oed os na allwch chi fynd yn bersonol, gallwch gymryd rhan mewn prosiect gwyddoniaeth cyhoeddus mawr, y Dreamachine Perception Census.

Mae Green Space Dark Skies hefyd yn parhau. Dros y penwythnos roedd cannoedd o bobl yn dringo copa uchaf Lloegr, Scafell Pike, a gafodd ei ffilmio ar gyfer y rhaglen arbennig oedd yn cael ei chreu ar gyfer rhaglen Countryfile y BBC, a fydd yn cael ei darlledu ym mis Hydref. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd aelodau eraill o'r cyhoedd yn dringo copaon uchaf Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru fel rhan o'r rhaglen arbennig ar y teledu.

Ar ôl mynd i drefi a dinasoedd eraill yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, mae StoryTrails, yn cyrraedd Lambeth a Lewisham, gan gynnig cyfle i bobl leol ac ymwelwyr ddarganfod straeon newydd a llai adnabyddus am rai o'r bobl sydd wedi cyfrannu at fywyd y lle y maen nhw'n byw ynddo. Gan ddefnyddio technoleg VR, AR a 3D, mae StoryTrails yn datblygu’r ffordd yr ydym yn defnyddio'r technolegau hyn ar gyfer ffyrdd newydd o adrodd straeon ymgolli.

Bydd manylion y ffilm sy'n cael ei chreu gan dîm StoryTrails, sydd i'w darlledu ar y BBC, yn cael eu cyhoeddi’n fuan.