1
Go

Cyfnod preswyl yr Amgueddfa Hanes Natur yn SEE MONSTER

Date and time

26 - 29 September

Publication date
see monster weston supermare

SEE MONSTER x profiad sain Ein Planed Doredig

Dydd Llun 26 – Dydd Gwener 30 Medi
Helideck, SEE MONSTER
Am ddim, dim angen cadw lle

Wrth i'n galw ar adnoddau'r ddaear gynyddu, mae coedwigoedd yn dod yn dir fferm, mae plastig yn llenwi ein cefnforoedd ac mae'r hinsawdd yn cynhesu'n gyflym. Dewch o hyd i’n profiad sain ar yr Helideck i ddarganfod mwy am ganlyniadau gweithredoedd dynol a dysgu am atebion blaengar o fyd natur gan ein gwyddonwyr sy’n rhuthro i drwsio ein planed doredig.

SEE MONSTER x gosodiad rhyngweithiol Ein Planed Doredig

Dydd Mawrth 27 – Dydd Iau 29 Medi, 10am – 5pm
Man Digwyddiadau Tropicana
Am ddim, dim angen cadw lle

A fyddai'n well gennych chi – peidio byth â phrynu dillad newydd, na bwyta pryfed ar gyfer pob pryd? Ymunwch â gwyddonwyr ac addysgwyr yr Amgueddfa Hanes Natur mewn trafodaeth, dadl, a gweithgareddau ymarferol i archwilio eich perthynas eich hun â'r argyfwng planedol a pha mor bell y byddech chi'n mynd i'w ddatrys.

Trafodaeth banel: Rhoi Adnoddau i'r Economi Werdd

Dydd Mawrth 27 Medi, 6pm – 7.30pm
Man Digwyddiadau Tropicana
Am ddim, dim angen cadw lle

Bydd y panel hwn yn dod â gwyddonwyr, diwydiant ac arbenigwyr lleol ynghyd i ganolbwyntio ar y nod hirdymor o greu economi gylchol hunangynhaliol. Sut allwn ni addasu mwynau a thechnoleg i bweru ynni gwyrdd a’u hailddefnyddio, gan leihau defnydd ac ailgylchu gwastraff. Pa mor bell yr ydym ni ar y daith at ddyfodol dim gwastraff a sut y gallwn ni sicrhau y bydd y gwaith o roi adnoddau ar gyfer y newid, gan gynnwys rhagor o fwyngloddio mwynau, yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf cyfrifol yn amgylcheddol.

Cwrdd â'r Gwyddonwyr

Dydd Mercher 28 Medi, 10am – 5pm
Man Digwyddiadau Tropicana
Am ddim, dim angen cadw lle

Cwrdd â'r gwyddonwyr! Ni fu byw yn gynaliadwy erioed yn bwysicach, ond mae technolegau gwyrdd newydd yn ddibynnol ar fetelau a mwynau sydd yn brin. Dysgwch sut mae gwyddonwyr yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd drwy ymchwilio i ffyrdd o leoli a thynnu gwahanol fetelau yn foesegol a chynaliadwy; sut ydym yn cloddio dyfodol cynaliadwy?

Dwy genhedlaeth yn trafod dyfodol cynaliadwy

O ddydd Mercher 28 Medi
Ar-lein drwy wefan SEE MONSTER
Am ddim, dim angen archebu

Beth allwn ni ei ddysgu o sgwrs rhwng actifydd hinsawdd ifanc a gwyddonydd o'r Amgueddfa Hanes Natur? Bydd y drafodaeth hon a recordir yn cyfleu safbwyntiau gwahanol yr amgylcheddwr lleol Archie Matthews, sy'n cynrychioli Climate Justice Revolution Weston-super-Mare a'r Athro Richard Herrington, gwyddonydd yr Amgueddfa Hanes Natur sy'n gweithio tuag at ddyfodol carbon isel. Darganfyddwch pa atebion y maen nhw'n eu rhagweld ar gyfer creu byd mwy cynaliadwy.