Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Profiadau’r Lleuad
Ymweld â'r ŵyl theatr, ffilm a cherddoriaeth
- Date and time
-
27 - 30 Mai
- Publication date

Mae Tour de Moon wedi glanio Newcastle ac mae'n cynnig profiad anhygoel i chi.
Gan gymryd drosodd warws segur yn 51 Lime Street, Newcastle ac yn cael ei chynnal dros bedwar diwrnod – cewch gyfle i ymgolli yn y byd rhyfedd hwn o gymeriadau a dod yn rhan o'r stori wrth iddi ddatblygu o'ch cwmpas.
Archwiliwch y gofodau theatrig swrrealaidd ac anarferol hyn neu eisteddwch a mwynhewch y SoundBath gan Loss><Gain – sef gosodiad o olau yn cynnwys cerddoriaeth gan rai cerddorion serol megis Yelfris Valdès, Oliver Coates, Jatinder Singh Durhailay & Suren Seneviratne; Roella Oloro, Rival Consoles, Gruff Rhys, Cosmo Sheldrake, Anna Meredith, Kae Tempest, Jarvis Cocker a mwy.
Gwyliwch ffilmiau byr sydd newydd eu comisiynu a chofiwch gael gafael ar eich nwyddau, finylau a chylchgronau Tour de Moon eich hun wrth adael!
Y rhan orau yw’r ffaith ei fod yn waith a grëwyd gan bobl ifanc greadigol, ar gyfer pobl ifanc greadigol, sy'n golygu y bydd hon yn noson na fyddwch yn ei hanghofio.
Ar ôl Profiadau’r Lleuad, gallwch chi wneud eich ffordd i'r ôl-barti yn Moon Music, a gynhelir yn World HQ, Newcastle.
Rhaid i ymwelwyr fod yn 18+ i fynd i mewn
Archebwch eich tocyn Profiadau’r Lleuad am ddim