1

DATGANIAD HYGYRCHEDD DIGWYDDIADAU BYW

Gwybodaeth mynediad

Cynllunio taith i gomisiwn UNBOXED?

Mae UNBOXED wedi ymrwymo i alluogi pawb i rannu yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud.

Mae gan bob comisiwn UNBOXED ei ddarpariaethau hygyrchedd unigryw ei hun. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy neu gynllunio ymweliad, ewch i wefannau'r comisiwn unigol sydd â dolenni iddyn nhw ar ein tudalennau gwybodaeth yma: [Dolen i 'Y 10 Prosiect'].

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi neu os oes gennych gwestiynau sydd heb eu hateb yma, anfonwch e-bost atom yn hello@unboxed2022.uk a gwnawn ein gorau i helpu.

Eisiau gwybod mwy?

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr hygyrchedd arobryn Direct Access.

Gwyliwch y fideo i wybod mwy am sut mae'r tîm ymgynghori yn Direct Access yn cefnogi pob un o'n 10 prosiect i ymgorffori hygyrchedd o fewn eu rhaglenni.

Rydym hefyd wedi partneru gyda Sensory Access i gynhyrchu Naratifau Cymdeithasol a Chardiau Sgorio Synhwyraidd ar gyfer ein prif ddigwyddiadau, y gallwch ddod o hyd iddynt ar dudalennau gwybodaeth y 10 Prosiect.

Ein Hymrwymiad Hygyrchedd

Mae UNBOXED yn credu mewn galluogi pawb i rannu yn yr hyn yr ydym yn ei wneud, yn gyfartal a gydag urddas a pharch.

Nod UNBOXED yw bodloni gofynion mynediad pawb yn deg. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i greu comisiynau hygyrch lle bynnag y bo modd, yn archwilio dulliau newydd o ran mynediad integredig ac yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein holl brosiectau a chomisiynau mor hygyrch ag y gallant fod.

Byddwn yn gwbl gynhwysol ac yn disgwyl i’n sefydliad a phawb yr ydym yn gweithio gyda nhw i gyflawni comisiynau sy’n gwbl hygyrch a chynhwysol i bawb.

Rydym wedi ymrwymo i ddysgu a phrofi dulliau newydd a gwella ein cynnig mynediad yn barhaus. Fel rhan o'n hymrwymiad i'r gred hon, mae UNBOXED wedi mabwysiadu Polisi Hygyrchedd. Mae'r ymrwymiad hwn yn amlinellu dull strategol a fydd yn ymgorffori hygyrchedd a chynhwysiant o fewn ein rhaglennu creadigol, prosesau cynllunio, Bwrdd ac UNBOXED yn gyffredinol.