Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Line Up Cerddoriaeth Dandelion Inverness
Dandelion yn datgelu’r artistiaid a’r gweithgareddau cyntaf ar gyfer gŵyl fawr am ddim yn Inverness
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Dandelion Inverness Music Line up" (PDF)
- Gŵyl Dandelion, gŵyl gerddoriaeth a’r celfyddydau am ddim yn yr awyr agored yn dathlu cynaliadwyedd yn cael ei chynnal dydd Gwener 2 – dydd Sul 4 o Fedi
- Yr artistiaid yn cynnwys King Creosote, Tank and the Bangas, The Lost Words a mwy!
Yn dilyn llwyddiant gŵyl agoriadol Dandelion yn Glasgow dros yr haf, mae’r trefnwyr wrth eu boddau i gyhoeddi’r artistiaid cyntaf fydd yn ymddangos ar y llwyfan yn ystod gŵyl Inverness fis Medi gan gynnwys y canwr/cyfansoddwr o’r Alban King Creosote, y grŵp roc, ffync a soul a hip-hop Tank and the Bangas o New Orleans, a dathliad o gerddoriaeth, llenyddiaeth, iaith a chelf gan The Lost Words y gwnaeth eu prosiect Spell Songs alw arnom ni i gyd i ailddeffro ein cariad at fyd natur a’r gwyllt.
Bydd hefyd perfformiadau gan Dallahan, un o’r grymoedd mwyaf gwahanol mewn cerddoriaeth werin ryngwladol, Sona Jobarteh, meistr y kora o Gambia, y canwr/cyfansoddwr Nati Dreddd, y grŵp gwerin Nordig Dreamers’ Circus, cyn Gerddor Traddodiadol Ifanc y Flwyddyn BBC Radio Scotland Hannah Rarity, The Ross Ainslie & Ali Hutton Trio, Scott Matthews a’r cerddor gwerin Hamish Napier y mae ei albwm diweddar The Woods yn deyrnged i straeon a threftadaeth yr Ucheldiroedd o le mae’n hanu, yn ogystal â Band Pibau Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban ac Acibreira, gyda rhai gwesteion arbennig iawn i’w cyhoeddi cyn yr ŵyl.