1

Line Up Cerddoriaeth Dandelion Inverness

Dandelion yn datgelu’r artistiaid a’r gweithgareddau cyntaf ar gyfer gŵyl fawr am ddim yn Inverness

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Dandelion Inverness Music Line up" (PDF)

  • Gŵyl Dandelion, gŵyl gerddoriaeth a’r celfyddydau am ddim yn yr awyr agored yn dathlu cynaliadwyedd yn cael ei chynnal dydd Gwener 2 – dydd Sul 4 o Fedi
  • Yr artistiaid yn cynnwys King Creosote, Tank and the Bangas, The Lost Words a mwy!


Yn dilyn llwyddiant gŵyl agoriadol Dandelion yn Glasgow dros yr haf, mae’r trefnwyr wrth eu boddau i gyhoeddi’r artistiaid cyntaf fydd yn ymddangos ar y llwyfan yn ystod gŵyl Inverness fis Medi gan gynnwys y canwr/cyfansoddwr o’r Alban King Creosote, y grŵp roc, ffync a soul a hip-hop Tank and the Bangas o New Orleans, a dathliad o gerddoriaeth, llenyddiaeth, iaith a chelf gan The Lost Words y gwnaeth eu prosiect Spell Songs alw arnom ni i gyd i ailddeffro ein cariad at fyd natur a’r gwyllt.

Bydd hefyd perfformiadau gan Dallahan, un o’r grymoedd mwyaf gwahanol mewn cerddoriaeth werin ryngwladol, Sona Jobarteh, meistr y kora o Gambia, y canwr/cyfansoddwr Nati Dreddd, y grŵp gwerin Nordig Dreamers’ Circus, cyn Gerddor Traddodiadol Ifanc y Flwyddyn BBC Radio Scotland Hannah Rarity, The Ross Ainslie & Ali Hutton Trio, Scott Matthews a’r cerddor gwerin Hamish Napier y mae ei albwm diweddar The Woods yn deyrnged i straeon a threftadaeth yr Ucheldiroedd o le mae’n hanu, yn ogystal â Band Pibau Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban ac Acibreira, gyda rhai gwesteion arbennig iawn i’w cyhoeddi cyn yr ŵyl.