1
Go

Sioe Deithio

Ymunwch ag UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU mewn gwyliau a chynadleddau yn ystod yr hydref eleni.

Date and time

17 Medi – 19 Hydref

Mae Sioe Deithio Unboxed yn gyfle gwych i athrawon ac addysgwyr gael blas ar ein prosiectau ysbrydoledig a chwrdd â'n tîm brwdfrydig.

Rydym yn ymweld â threfi a dinasoedd yr hydref hwn i roi blas o’n Rhaglen Ddysgu, yn seiliedig ar y 10 prosiect a gomisiynwyd gan UNBOXED, i bawb sydd â diddordeb mewn STEM a’r celfyddydau mewn addysg.

Mae rhai o’r gweithgareddau rydym yn eu creu ar ein stondin yn cynnwys:

  • Defnyddio technoleg sgrin werdd i wibio drwy gysawd yr haul gyda Our Place in Space
  • Cymryd rhan mewn cyfres o dasgau rhyngweithiol a difyr yn cynnwys lliwiau, cerddoriaeth, rhithiau a mwy, a ddatblygwyd fel rhan o Dreamachine
  • Profi eich gwybodaeth mewn cwis, a ysbrydolwyd gan About Us, y gosodiad goleuadau a sain trawiadol sy'n cyflwyno hanes o'r Glec Fawr hyd heddiw

Dewch o hyd i ni yn:

  • Gŵyl Gwyddoniaeth Prydain, dydd Sadwrn 17 Medi, Canolfan Siopa High Cross, Caerlŷr
  • Cynhadledd Darganfod ASDC, o ddydd Mercher 28 i ddydd Iau 29 Medi, Canolfan Wyddoniaeth Glasgow
  • New Scientist Live, o ddydd Gwener 7 i ddydd Sul 9 Hydref, Canolfan ExCel, Llundain 
  • Gŵyl IF, dydd Sadwrn 15 Hydref, Parc Busnes Rhydychen, Rhydychen
  • Gŵyl IF, dydd Sul 16 Hydref, Canolfan Siopa Templars Square, Rhydychen