1

LANSIO TOUR DE MOON YN Y DU

Tour de Moon yw'r cyntaf o'i fath sy’n darparu llwyfan ar gyfer gwrthddiwylliannau ieuenctid a gweithwyr bywyd nos.

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg 'Lansio Tour de Moon yn y DU' yn llawn

Gŵyl unigryw o ymgolli am ddim, sy'n teithio 3 dinas yn y DU mewn 4 diwrnod drwy gyfrwng taith ‘moon convoy’ gynaliadwy.

Mae Tour de Moon yn ŵyl unigryw sy’n dod â sgyrsiau, sinema, cerddoriaeth a gemau at ei gilydd i gyd o dan un thema gosmig. Mae Tour de Moon yn dathlu'r berthynas rhwng y ddaear a'r lleuad gyda nifer o brofiadau cyffrous a gwreiddiol sy'n procio’r meddwl; gyda phwyslais arbennig ar fywyd nos, creadigrwydd a diwylliant. Bydd yr ŵyl yn annog ymwelwyr i ofyn 'PAM na allwn ni ddychmygu ffordd newydd o feddwl?' - gan amlygu’r angen am ddychymyg radical yn yr hinsawdd fyd-eang bresennol yn ogystal ag annog dyfodol amgen. Mae Tour de Moon, sy'n rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, yn ŵyl gyhoeddus; mae’r tocynnau am ddim a gellir eu cael ar gyfer pob dinas unigol yma. Bydd tocynnau'n cael eu rhyddhau gam wrth gam, gyda thocynnau sioe Caerlŷr ar gael nawr.

Ar ei daith epig dros y wlad, mae Tour de Moon yn aros yng Nghaerlŷr, Newcastle a Southampton drwy gydol mis Mai a mis Mehefin pan fydd pedwar diwrnod o ddigwyddiadau rhyngweithiol yn cael eu cynnal ym mhob dinas, gan apelio at bawb o dimau chwaraeon amatur i glybwyr brwdfrydig. Ochr yn ochr â'r tair prif ddinas, bydd Moon Convoy yn ymweld â Bletchley, Wolverhampton, Grimsby, Huddersfield, Blackburn, Barrow-in-Furness, Plymouth, Farnborough a Crawley, gan orffen yn Hackney’s Pedro’s Youth Club – un o'r sefydliadau ieuenctid hynaf yn y DU.