1
Read

CYDWEITHREDIADAU CREADIGOL DI-BEN-DRAW

10 Syniad Rhyfeddol: Cydweithio posibl yn y dyfodol

Publication date

Mae'r 10 prosiect uchelgeisiol, a gomisiynwyd ac a gyflwynwyd fel rhan o UNBOXED yn 2022, wedi'u creu drwy gydweithrediadau newydd cyffrous ar draws gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg.

Mae’r comisiynau wedi’u gwireddu dan do ac yn yr awyr agored, yng nghanol dinasoedd, trefi arfordirol ac yn ddwfn yn y tirlun, yn bersonol, drwy ddarlledu ac ar-lein. Mae hygyrchedd wedi bod yn flaenoriaeth, a’r prosiectau wedi'u cynllunio i annog pobl o bob oed i ymgysylltu ag ystod o bynciau o gynaliadwyedd, bioamrywiaeth, a niwrowyddoniaeth, i amrywiaeth a chymuned.

Mae gan gomisiynau UNBOXED y potensial i gael eu haddasu, eu cynhyrchu a'u cyflwyno gan sefydliadau partner mewn trefi, dinasoedd a chenhedloedd ledled y byd. Mae gan bob un raglen ddysgu, ymgysylltu a chyfranogiad sylweddol yn rhan ohonynt. Mae elfennau digidol, gan gynnwys apiau realiti estynedig, yn ei gwneud hi'n bosibl cyrraedd ystod enfawr o gynulleidfaoedd.

Mae creadigrwydd yn llywio'r ffordd yr ydyn ni'n byw, yn dysgu, yn gweithio ac yn chwarae lle bynnag yr ydyn ni yn y byd. Dyma gyfle i barhau â'r hyn rydyn ni wedi ei ddechrau.

Gallwch ddarllen am bob un o 10 comisiwn UNBOXED yma.

I gael gwybod mwy am raglen ryngwladol UNBOXED a chyfleoedd i deithio, neu i gael gwybod sut y gallai eich sefydliad gymryd rhan, cysylltwch â : hello@unboxed2022.uk.

Y British Council yw partner rhyngwladol UNBOXED.