1

Green Space Dark Skies yn y Peak District

Angen pobl i ddod at ei gilydd i greu gwaith celf awyr agored anhygoel ym Mharc Cenedlaethol y Peak District, ar gyfer digwyddiad agoriadol Green Space Dark Skies

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn Green Space Dark Skies in Peak District (PDF)

Mae'r cwmni celfyddydau awyr agored Walk the Plank yn recriwtio pobl o'r rhanbarth a'r cyffiniau i gymryd rhan mewn digwyddiad ar Rosydd Gogledd Swydd Efrog o'r enw Green Space Dark Skies, rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Bydd y cynhyrchiad yn gweld pobl o ddinasoedd, trefi ac ardaloedd gwledig yn y rhanbarth yn dod ynghyd gydag artistiaid a phobl greadigol i greu cysylltiadau cyfunol pwerus â'r dirwedd.

Bydd y gwaith celf yn cael ei greu gyda'r nos gan gyfranogwyr, a fydd yn cael eu galw'n Lwmenyddion, o'r ardal leol. Byddant yn cael eu tywys ar hyd lwybrau neu ddyfrffyrdd yn cario goleuadau clyfar, sy'n sensitif i'r amgylchedd yn ystod y nos a bydd y coreograffi digidol hardd yn cael ei gipio ar ffilm ac ar gael i'w wylio ar-lein wedyn. Bydd pob ffilm fer yn ymgorffori straeon y bobl a'r lleoedd dan sylw.