Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Green Space Dark Skies yn Dartmoor and Exmoor
Gwahoddir cannoedd o bobl leol i ddod at ei gilydd i greu gwaith celf ym Mharciau Cenedlaethol Dartmoor ac Exmoor fel rhan o ddathliad o greadigrwydd ledled y DU.
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Green Space Dark Skies in Dartmoor and Exmoor' (PDF)
Bydd y cwmni celfyddydau awyr agored Walk the Plank yn gweithio gyda phobl leol, sefydliadau a grwpiau cymunedol i ddod â'r prosiectau hygyrch hyn yn fyw yn Dartmoor ac Exmoor. Bydd y cwmni syrcas Extraordinary Bodies yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac artistiaid lleol i greu’r gwaith celf ym Mharc Cenedlaethol Dartmoor. Bydd y gwaith celf yn cael ei greu gyda’r nos gan gyfranogwyr lleol, a fydd yn cael eu galw'n Lwmenyddion. Gan gael eu harwain ar lwybrau neu ddyfrffyrdd yn cario goleuadau clyfar, bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio i bawb ei weld wedyn.
Eleni mae 20,000 o bobl, o'r Cairngorms i'r Chilterns, Gŵyr i Rosydd Gogledd Swydd Efrog a Dartmoor i Arfordir Causeway Gogledd Iwerddon, yn cael eu recriwtio fel Lwmenyddion ar gyfer Green Space Dark Skies. Fe fyddant yn rhan o 20 o weithiau celf awyr agored ar raddfa fawr yn nhirweddau mwyaf eithriadol y DU yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, o fis Ebrill i fis Medi 2022.
Bydd digwyddiadau Dartmoor ac Exmoor yn hygyrch ac yn hawdd eu cyrraedd ac mae croeso i bawb gofrestru am ddim i gymryd rhan yn y gwaith celf.