1
Watch

GALWAD – Ledled Cymru

Lleoliad – Ar-lein, ar y teledu ac yn fyw o Gymru

Date and time

26 Medi - 2 Hydref

Publication date
two females standing in front of a mountain with the word GALWAD written in between them

Stori wedi’i gosod deng mlynedd ar hugain yn y dyfodol yw GALWAD, a fydd yn datblygu ar drwy ddrama deledu, llwyfannau digidol a digwyddiadau byw mewn tri lleoliad yng Nghymru – Blaenau Ffestiniog, Merthyr Tudful ac Abertawe, dros gyfnod o saith diwrnod.

Ar 26 Medi 2022, mae storm drydanol yn torri'n ddramatig dros Gymru. Mae’r amhosibl yn digwydd – mae amser yn cracio, mae'r dyfodol yn cysylltu.

Mae Efa, merch 16 oed o Ferthyr Tudful, yn honni bod mwy na dim ond negeseuon wedi cyrraedd o 2052 – mae hi wedi cyfnewid lle gyda’i hunan 46 oed o 2052. Wrth i ni ddilyn ei thaith fyw ledled Cymru dros saith diwrnod, mae hi a’i ffrindiau yn eu harddegau mewn cyfyng-gyngor: beth i’w wneud pan fyddwch chi’n wynebu eich dyfodol eich hunan. Beth sydd gan 2052 i'w ddweud wrthym ni, ac a fyddwn ni’n gwrando?

Dilynwch y stori wrth iddi ddatblygu o 26 Medi ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan GALWAD, a gwyliwch ar Sky Arts am ddim ar 2 Hydref 2022.