1
Read

Hwyl i Deuluoedd

Ystod eang o gyfleoedd AM DDIM i deuluoedd eu mwynhau ym mhob tywydd

Date and time

17 Medi - 19 Hydref

Publication date

SEE MONSTER

Archwilio’r Awyr Agored 

Ewch i'n comisiwn sy'n hwylus i'r teulu, SEE MONSTER yn Weston-super-Mare. Mae platfform ar y môr sydd wedi’i ddigomisiynu o Fôr y Gogledd yn dod yn SEE MONSTER, un o osodiadau celf cyhoeddus mwyaf y DU – 15m yn dalach nag Angel y Gogledd!

Mae hwn yn gyfle prin i ddod yn agos at un o’r Angenfilod sydd fel arfer yn treulio ei amser allan ar y môr. Ewch ati i archwilio'r arddangosfeydd a'r gweithgareddau rhyngweithiol ar y pedair lefel, gan gynnwys ystafell dywydd lle gallwch gael profiad o bob math o dywydd, edmygu'r rhaeadr enfawr sy’n creu rhu’r anghenfil a gweld Weston o safbwynt newydd.

Mae gan SEE MONSTER raglen o weithgareddau teuluol hefyd, gan gynnwys rhaglen lawn ar gyfer hanner tymor mis Hydref. Ewch i wefan SEE MONSTER i gael y manylion.

Dewch i Ymweld â Ni ar Ein Taith

Mae tîm UNBOXED yn mynd ar daith, gan fynd â'n stondin i wyliau a digwyddiadau a gynhelir ym mis Medi a mis Hydref. Dewch yn llu i gwrdd â ni am gyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau rhyngweithiol llawn hwyl i bob oed yn cynnwys lliwiau, cerddoriaeth, rhithiau a mwy.

Sioe Deithiol UNBOXED Dyddiad Lleoliad

British Science Festival
(Gŵyl Gwyddoniaeth Prydain)

Dydd Sadwrn 17 Medi Canolfan Siopa High Cross, Caerlŷr

ASDC Discovery Conference
(Cynhadledd Darganfod ASDC)

Dydd Mercher 28 - dydd Iau 29 Medi Canolfan Wyddoniaeth Glasgow
New Scientist Live Dydd Gwener 7 - dydd Sul 9 Hydref Canolfan ExCel, Llundain

IF Festival
(Gŵyl IF)

Dydd Sadwrn 15 Hydref Parc Busnes Rhydychen, Rhydychen

IF Festival
(Gŵyl IF)

Dydd Sul 16 Hydref Canolfan Siopa Templars Square, Rhydychen

BEYOND Conference
(Cynhadledd BEYOND)

Dydd Mercher 19 Hydref Caerdydd

Our Place in Space

Gweld y byd o safbwynt gwahanol

Mae ap Our Place in Space yn eich galluogi i fwynhau llwybr cysawd yr haul yn unrhyw le. Gallwch ddewis cerdded yr 8.5km cyfan o'r haul i blaned Mercher neu dim ond darnau bach ohono ar y tro. Mae’r daith gerdded yn fodel graddfa berffaith o gysawd yr haul ac yn galluogi plant (a phlant mawr) i ddeall maint ein cymdogaeth blanedol mewn ffordd y gallant uniaethu â hi.

Mae hefyd lu o gymeriadau arbennig Oliver Jeffers i chi ddod o hyd iddynt ar hyd y ffordd.

Google Play store logo
Apple app store logo

Ar gyfer darpar ofodwyr

Astronaut Chris Hadfield in space suit and on space station

Mae tîm Our Place in Space wedi ymuno ag arloeswyr o faes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg, a fydd yn ysbrydoli plant i feddwl mewn ffyrdd newydd am y gofod a’n lle ynddo. Bob mis, caiff her greadigol newydd ei lansio. Hyd yma, mae gan y Peiriannydd McLaren, Ella, her ddylunio; mae angen cymorth ar y gofodwr NASA, Chris Hadfield, gyda'i genhadaeth ddiweddaraf; mae'r awdur, Neil Gaiman, yn herio plant i sianelu eu hawdur mewnol; ac mae angen criw creadigol ar y gofodwr NASA, Nicole Stott i helpu ei chenhadaeth arbennig.

Dysgwch fwy

PoliNations

Blodyn sy’n unigryw i chi

Ewch ati i greu blodyn realiti estynedig a'i blannu mewn gardd rithwir epig gyda'r ap. Mae ap PoliNations yn holi 12 o gwestiynau syml amdanoch chi'ch hun, a sut rydych chi'n gweld y byd ac yn creu blodyn sy'n gwbl unigryw i chi. Drwy ryfeddodau realiti estynedig, gallwch chi blannu eich blodyn unrhyw le yn y byd, ei groesbeillio â phlanhigion eraill i greu blodau newydd a chreu eich gardd rithwir epig eich hun.

Google Play store logo
Apple app store logo

Dreamachine

Dewch o hyd i atebion i Gwestiynau Mawr Bywyd

Gall plant 7 oed neu hŷn roi cynnig ar Life Big Questions gan Dreamachine. Cymerwch ran mewn pum her AM DDIM, a gynhelir gan Martin Dougan o CBBC Newsround, sy'n cymryd tua 15 munud i'w cwblhau ac sy'n datgelu potensial anhygoel yr ymennydd dynol a sut mae eich synhwyrau'n archbŵer i chi.

StoryTrails

Dysgwch straeon newydd am leoedd roeddech chi’n meddwl eich bod yn eu hadnabod, gyda'r ap

Google Play store logo
Apple app store logo

GALWAD

Gwyliwch stori ein dyfodol yn datblygu

Bydd GALWAD, sef drama a osodwyd yn y dyfodol, ar gael i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc ei gwylio am ddim ar Sky Arts o 2 Hydref 2022. Stori wedi’i gosod 30 mlynedd yn y dyfodol yw GALWAD, a fydd yn datblygu drwy ddrama deledu, llwyfannau digidol a digwyddiadau byw mewn tri lleoliad yng Nghymru – Blaenau Ffestiniog, Merthyr Tudful ac Abertawe, o 26 Medi. Darlledir uchafbwynt yr wythnos ar Sky Arts ar 2 Hydref, gan ddod â thalentau amlycaf Cymru ym maes ffilm a theledu, technoleg greadigol a pherfformiadau byw ynghyd, gan gynnwys y dylunydd cynhyrchu arobryn Alex McDowell (a weithiodd ar Minority Report).