1

Dreamachine yn agor yng Nghaerdydd

Y profiad celf ymgolli y mae pawb yn siarad amdano – y nagor yng Nghaerdydd

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Dreamachine yn agor yng Nghaerdydd' (PDF)

Mae Dreamachine, profiad ymgolli newydd pwerus sy'n archwilio potensial diddiwedd y meddwl dynol, yn agor heddiw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd lle bydd yn rhedeg tan 18 Mehefin.

Wedi'i greu gan Collective Act, mae'n dwyn ynghyd enillwyr y Wobr Turner, artistiaid Assemble, y cyfansoddwr Jon Hopkins sydd wedi derbyn enwebiadau gan Grammy a Mercury, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw. Mae Dreamachine wedi ei gomisiynu a'i gyflwyno fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Bydd y profiad ymgolli unigryw hwn yn meddiannu adeilad hardd y Deml Heddwch yng nghanol Caerdydd, a adeiladwyd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf ac a gynlluniwyd i 'newid y byd' drwy hybu ymdrechion heddwch rhyngwladol. Bydd Dreamachine yn tywys ei gynulleidfaoedd ar daith galeidosgopig, weledol drwy olau crynedig a sain, a’r profiad cyfan yn digwydd drwy lygaid cau. Bydd cynulleidfaoedd yn cymryd eu seddi mewn lle a gynlluniwyd gan Assemble sy'n caniatáu iddyn nhw fwynhau profiad amlsynhwyraidd a rennir sy'n bersonol iawn, ac ar y cyd.