1

Dreamachine

Gwaith celf i'w brofi gyda'ch llygaid ar gau

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg Dreamachine llawn (PDF)

Mae Dreamachine yn fath newydd pwerus o brofiad trochi sy'n archwilio potensial diderfyn y meddwl dynol. Wedi'i greu gan Collective Act, mae'n dwyn ynghyd yr artistiaid sydd wedi ennill Gwobr Turner, Assemble, y cyfansoddwr a enwebwyd ar gyfer gwobrau Grammy a Mercury Jon Hopkins, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw. Caiff ei lansio yn Llundain ym mis Mai 2022, ac yna bydd cyflwyniadau yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin, a gomisiynwyd ac a gyflwynir fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Mae Dreamachine wedi'i ysbrydoli gan ddyfais anhygoel ond nad oes neb llawer yn gwybod amdano gan yr artist-ddyfeisiwr Brion Gysin. Roedd ei ddyfais arbrofol, a wnaed gartref ganddo, yn defnyddio golau fflachio i greu dadrithiadau byw, patrymau caleidoscopig a ffrwydradau o liw ym meddwl y gwyliwr. Wedi'i gynllunio i fod y 'gwaith celf cyntaf i gael ei brofi gyda'ch llygaid ar gau', roedd gan Gysin weledigaeth ar gyfer ei ddyfais i gymryd lle'r teledu ym mhob cartref yn America. Yn hytrach na defnyddwyr goddefol cyfryngau torfol, byddai gwylwyr y Dreamachine yn creu eu profiadau sinematig eu hunain

Dros drigain mlynedd ar ôl iddo gael ei ddyfeisio'n wreiddiol, mae Collective Act wedi dwyn ynghyd tîm rhyngddisgyblaethol o feddyliau blaenllaw ym maes pensaernïaeth, technoleg, cerddoriaeth, niwrowyddoniaeth ac athroniaeth i ail-ddychmygu'r Dreamachine yn radical fel math newydd pwerus o brofiad cyfunol; gan osod cynsail ar gyfer ffyrdd newydd o gydweithio ar draws y gwyddorau a'r celfyddydau i ddod â'r syniad uchelgeisiol hwn yn fyw.

Bydd pob profiad o'r Dreamachine yn gwbl unigol. Bydd byd caleidoscopig Dreamachine yr 21ain ganrif yn arwain cynulleidfaoedd drwy amgylchedd trochi o olau a sain, mor fywiog a brawychus ag unrhyw efelychiad digidol, ond a grëwyd gennych chi ac sy'n unigryw i chi. Bydd yn brofiad cyfoethog a chymunedol a bydd y rhaglen unigryw hon yn rhoi ffordd gwbl newydd i gynulleidfaoedd o ailgysylltu â'u hunain, a'i gilydd.

Bydd Dreamachine yn cael ei gyflwyno yn Llundain, Caerdydd, Belfast a Chaeredin rhwng Mai a Hydref 2022. Fe'i cyflwynir gyda Chyngor Caerdydd, Gŵyl Wyddoniaeth Gogledd Iwerddon, W5 Belfast, Gŵyl Ryngwladol Caeredin a Gŵyl Wyddoniaeth Caeredin. Cyhoeddir lleoliadau, dyddiadau a manylion tocynnau ddiwedd mis Mawrth 2022.