1

Data wedi'i ryddhau ar gyfer UNBOXED

Crëwyd gan filoedd, mwynhawyd gan filiynau

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Data wedi'i ryddhau ar gyfer UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU" (PDF)

  • Rhaglen o ddeg comisiwn mawr ledled y DU yn cael cynulleidfa o dros 18 miliwn drwy gyfryngau byw, digidol a darlledu

  • Mae'r rhaglen, a gyflwynwyd ym mhob un o bedair gwlad y DU, yn esiampl newydd o raglennu diwylliannol, gyda buddsoddiad mewn creadigrwydd a chydweithio traws-sector

  • Mae 1.7 miliwn o bobl ifanc a theuluoedd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu, gwirfoddoli a chyfranogi ledled y DU

  • Cafodd mwy na 6,000 o swyddi a chyfleoedd gyda thâl eu cefnogi ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a'r celfyddydau 

Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU heddiw yn cyhoeddi data dros dro sy'n nodi effaith ei raglen o ddeg comisiwn mawr a gynhaliwyd ym mhob un o bedair gwlad y DU yn 2022. Mae'n rhaglen a oedd yn rhad ac am ddim, a gynlluniwyd i fod mor hygyrch a chynhwysol â phosibl, wedi dod â phobl at ei gilydd mewn digwyddiadau byw ledled y DU, a thrwy gynnwys digidol a darlledu, gan gyflawni cynulleidfa o dros 18 miliwn. Mae'r cyhoeddiad yn nodi diwedd y rhaglen fyw ar y penwythnos.

Mae 2.8 miliwn wedi mynychu digwyddiadau byw mewn 107 o leoliadau ledled y DU yn cynnwys miloedd o ddigwyddiadau cymunedol unigol; mae 13.5 miliwn wedi ymgysylltu â chynnwys a gomisiynwyd ar gyfer darlledu a llwyfannau digidol – nifer sy’n parhau i dyfu; ac mae 1.7 miliwn wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu, gwirfoddoli a chyfranogiad cymunedol. Mae llawer o'r lleoliadau ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn drefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig nad ydynt yn cael eu gwasanaethu cystal gan raglenni diwylliannol mawr. Mae’r rhaglen wedi archwilio syniadau a phosibiliadau newydd pwysig ar gyfer y dyfodol, o gynaliadwyedd i rym y meddwl dynol, i ffyrdd newydd arloesol o adrodd straeon.

Roedd cyfleoedd dysgu, gwirfoddoli a chyfranogi y cyhoedd, ledled y DU ac ar-lein,  yn cynnwys teithiau ysgol, gwersi, cynulliadau a gweithdai, cystadlaethau barddoniaeth a chodio, mentrau tyfu cymunedol a phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion. Mae gweithgareddau ar gyfer plant ysgol wedi ategu rhaglen UNBOXED gan ganolbwyntio ar bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, celfyddydau a mathemateg (STEAM) sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm cenedlaethol. 

Mae UNBOXED wedi cyfrannu at dirwedd greadigol y DU drwy fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd a thrwy gefnogi cyfleoedd cyflogaeth a datblygu. Mae'r rhaglen wedi archwilio syniadau newydd drwy ddull cydweithredol unigryw traws sector o raglenni a oedd yn cynnwys ymchwil a datblygiad wedi'i ariannu yn ystod y pandemig, gan gefnogi llawer o sefydliadau creadigol a gweithwyr llawrydd drwy'r cyfnod hwnnw.

Cafodd pobl greadigol o feysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a'r celfyddydau (STEAM) gefnogaeth i ddylunio a chyflwyno'r rhaglen o niwrowyddonwyr, astroffisegwyr, rhaglenwyr cyfrifiadurol a pheirianwyr strwythurol i feirdd, cerddorion, artistiaid a dylunwyr setiau i greu prosiectau arloesol. Mae pobl ifanc a phobl greadigol sy'n dod i'r amlwg hefyd wedi cael cyfleoedd hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol ac i ennill profiad gwerthfawr.