Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over
20.5 million people across all four nations of the UK.
DANDELION YN CYHOEDDI DIGWYDDIADAU HAF NEWYDD
Cyhoeddi digwyddiadau haf newydd fel rhan o raglen am ddim ledled yr Alban
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg 'Dandelion yn cyhoeddi digwyddiadau'r haf' yn llawn (PDF)
• Datgelu mwy o fanylion am raglen Dandelion wrth i weithgareddau ddechrau
• Bydd ffermydd fertigol bach o'r enw 'Cubes of Perpetual Light' yn dod yn osodiadau cerddoriaeth sy'n cario 12 gwaith a gomisiynwyd yn arbennig gan 15 o grefftwyr o’r Alban a rhyngwladol gan gynnwys Craig Armstrong, Arooj Aftab a Maeve Gilchrist, a Jason Singh
• Bydd y gosodiadau ciwbiau cerdd yn teithio i leoliadau ledled yr Alban, gan gynnwys y V&A Dundee, Gŵyl Lyfrau Caeredin, Parti Gardd Kelburn a Gerddi Botaneg Inverness
• Bydd ciwbiau hefyd yn teithio i leoliadau eraill o amgylch yr Alban ar feiciau wedi'u haddasu'n arbennig, gan fynd â chiwbiau Dandelion i galon cymunedau ledled y wlad • Bydd digwyddiadau 'Am Ddim i Bawb' sy'n annog pawb i 'Hau, Tyfu a Rhannu' yn gweld 75,000 o blygiau llysiau am ddim yn cael eu rhoi i aelodau o'r cyhoedd
• Mae ffilm fer yn nodi dechrau Dandelion ac yn dilyn stori'r cerddor a'r tyddynwr Pàdruig Morrison i ynys Heisgeir, gan ystyried tyfu'n gynaliadwy i'r dyfodol
Mae Dandelion yn cychwyn heddiw [28 Ebrill 2022], rhaglen greadigol fawr sy'n dangos pŵer gweithredu ar y cyd drwy fenter uchelgeisiol 'tyfu eich hun' sy'n anelu at gyrraedd cannoedd o filoedd o bobl ledled yr Alban a thu hwnt. Gan ddilyn y tymor tyfu, o nawr tan fis Medi 2022, mae Dandelion yn cyfuno gwyddoniaeth, technoleg, celf a cherddoriaeth i ysbrydoli pobl i 'Hau, Tyfu a Rhannu' – nid bwyd yn unig, ond cerddoriaeth, syniadau a gwybodaeth. Wedi'i gomisiynu gan EventScotland a'i ariannu gan Lywodraeth yr Alban, Dandelion yw cyfraniad yr Alban i UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.