1

Dandelion Ciwbiau yn Senedd yr Alban

Bydd ‘Cubes of Perpetual Light’ yn chwarae comisiynau cerddoriaeth newydd wedi'u hysbrydoli gan themâu cynaliadwyedd a thwf yn ystod Gŵyl Wleidyddiaeth a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Dandelion Ciwbiau yn Senedd yr Alban" (PDF)

Bydd 'Cubes of Perpetual Light' sydd wedi'u dylunio'n arbennig yn dod at ei gilydd yn y Brifddinas yn yr haf i greu gosodiad cerddoriaeth trawiadol sy'n cynnwys golau rhaglenadwy a sain cwadraffonig. Bydd y gosodiad unigryw yn ymddangos yn y lleoliad eiconig Gardd yr Aelodau yn Senedd yr Alban, rhwng 11 a 28 Awst ac i'w weld yn ystod yr Ŵyl Wleidyddiaeth, 11-13 Awst ac Uwchgynhadledd Diwylliant Rhyngwladol Caeredin 26-28 Awst. Bydd ail osodiad yn cael ei osod yn ystod Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin, 13–29 Awst.

Mae'r gosodiad yn rhan o Dandelion, sef rhaglen greadigol fawr sy'n dangos pŵer gweithredu ar y cyd mewn menter uchelgeisiol yn ymwneud a thyfu eich cynnyrch eich hun gyda’r nod o gyrraedd cannoedd o filoedd o bobl ledled yr Alban a thu hwnt yn ystod yr haf. Mae Dandelion wedi'i gomisiynu gan EventScotland ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth yr Alban, a dyma gyfraniad yr Alban at UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Yn ganolog i Dandelion, mae’r broses o ddod â chelf a gwyddoniaeth ynghyd drwy greu cannoedd o 'giwbiau tyfu' bychain unigryw, o'r enw 'Cubes of Perpetual Light'. Mae'r ciwbiau 1m x 1m wedi'u cynllunio i feithrin proses o dyfu planhigion yn gyflym ac maent wedi'u datblygu i dyfu cannoedd o eginblanhigion o dan olau LED, gan gyfuno crefft ddylunio, arbenigedd garddwriaethol traddodiadol ac arloesedd technolegol.

Fodd bynnag, nid labordai tyfu bychain yn unig yw'r Ciwbiau, maent hefyd yn ysbrydoliaeth i gerddoriaeth newydd ac fe wahoddir pobl i’w phrofi mewn gwyliau a lleoliadau ar hyd a lled yr Alban yn yr haf, ac sydd bellach yn cyrraedd Caeredin. Mae'r gosodiadau arbennig yn cynnwys 12 ciwb a goleuadau ymgolli wedi'u hintegreiddio gyda systemau seinyddion cwadroffonig syfrdanol a gynlluniwyd i gyflwyno’r cyfansoddiadau cerddoriaeth newydd ar eu gorau sy’n cael eu chwarae 'o’r' ciwbiau. Dyma'r unig gyfle i glywed y cyfansoddiadau unigryw hyn yn eu cyfanrwydd.

I'r rhai hynny sy’n methu ag ymweld â gosodiadau'r ciwb yng Nghaeredin, byddan nhw hefyd yn ymweld â Gerddi Botaneg Inverness, 15–29 Awst, ac i'w gweld yn V&A Dundee tan 30 Awst. Mae'r gweithgaredd hwn yn rhan o raglen o gelf, cerddoriaeth, bwyd a gwyddoniaeth dros yr haf i'r gymuned leol ei mwynhau.

Mae cerddorion blaenllaw o'r Alban a thu hwnt wedi creu 13 o gomisiynau cerddoriaeth newydd ar gyfer ‘Cubes of Perpetual Light’, i gyd wedi'u hysbrydoli gan themâu natur a chynaliadwyedd. Nod y comisiynau, sydd i'w clywed yn y gosodiadau yn unig, yw annog gwrandawyr i feddwl yn ddyfnach ynghylch sut, ble a pham mae planhigion yn tyfu. Comisiynir pob darn o gerddoriaeth newydd gan Dandelion gyda chymorth ychwanegol ar gyfer gwaith rhyngwladol gan British Council Scotland. Mae gosodiad Caeredin yn cynnwys 13 trac o gerddoriaeth newydd gan yr artistiaid canlynol.