1

Cyreanogiad Green Space Dark Skies yn y du

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Green Space Dark Skies in the UK' (PDF)

Mae 20,000 o bobl, o'r Cairngorms i'r Chilterns, Gŵyr i Rosydd Gogledd Swydd Efrog a Dartmoor i Arfordir Causeway Gogledd Iwerddon, yn cael eu recriwtio i greu gwaith celf awyr agored ar raddfa fawr mewn 20 o dirweddau mwyaf eithriadol y DU ar gyfer Green Space Dark Skies, rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, o fis Ebrill i fis Medi 2022.

Bydd y cyntaf yn cael ei greu ym Mharc Cenedlaethol y Peak Disrict ar 23 Ebrill. Mae Green Space Dark Skies wedi'i ysbrydoli gan 90fed pen-blwydd Kinder Scout Mass Trespass 1932, digwyddiad allweddol yn yr ymgyrch i sicrhau mynediad i gefn gwlad i bobl gyffredin a ddylanwadodd ar greu rhwydwaith o Barciau Cenedlaethol y DU.

Byddant yn cael eu creu gan gyfranogwyr, y cyfeirir atynt fel Lwmenyddion, wrth iddi nosi. Byddant yn cael eu harwain ar hyd llwybrau neu ddyfrffyrdd yn cario goleuadau clyfar a fydd yn galluogi coreograffi digidol wedi'i gipio ar ffilm, tra hefyd yn sensitif i'r amgylchedd yn ystod y nos. Bydd pob ffilm fer yn cynnwys straeon y bobl a'r lleoedd a fydd yn cael sylw a byddant yn cael eu darlledu ar-lein ar ôl y digwyddiad. Bydd Lwmenyddion hefyd yn cael eu hannog i rannu eu cysylltiadau eu hunain â'r dirwedd a'r ardaloedd lleol fel rhan o'u hymwneud.

Bydd Green Space Dark Skies yn galluogi pobl o bob cefndir i greu cysylltiadau newydd â chefn gwlad drwy gefnogi'r rhai sy'n profi rhwystrau diwylliannol a chorfforol wrth geisio mynd i'n Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol i gael mynediad at ddigwyddiadau. Bydd y gyfres hon yn dathlu cefn gwlad a hawl pobl i'w harchwilio yn ogystal ag annog ein cyfrifoldeb i ofalu amdano ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.