1

Cyhoeddi lleoliadau Dreamachine

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Dreamachine wedi'i gyhoeddi' (PDF)

Mae Dreamachine yn fath newydd pwerus o brofiad ymgolli sy'n archwilio potensial diddiwedd y meddwl dynol. Bydd yn ymddangos mewn pedwar lleoliad unigryw ledled y DU, gan lansio ym Marchnad Gyhoeddus Woolwich yn Llundain (10 Mai - 24 Gorffennaf 2022) cyn cael ei gyflwyno yn Nheml Heddwch, Caerdydd (12 Mai - 18 Mehefin 2022), Eglwys Goffa Carlisle, Belfast (25 Gorffennaf – 4 Medi 2022) a Rinc Iâ Murrayfield, Caeredin (13 Awst - 25 Medi 2022 ). Mae tocynnau am ddim i Lundain a Chaerdydd wedi'u rhyddhau heddiw, a bydd tocynnau ar gyfer y lleoliadau eraill ar gael ym mis Mehefin (www.dreamachine.world)

Mae Dreamachine wedi'i greu gan Collective Act ac mae’n tynnu ynghyd artistiaid Assemble sy’n enillwyr Gwobr Turner, y cyfansoddwr Jon Hopkins a enwebwyd am wobrau Grammy a Mercury, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw, ac mae wedi’i gomisiynu a'i gyflwyno fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Bydd Dreamachine yn rhoi ffordd gwbl newydd i gynulleidfaoedd a chymunedau ailgysylltu â'u hunain a'i gilydd. Mae'r pedwar lleoliad wedi'u dewis am eu diddordeb hanesyddol a phensaernïol, yn ogystal â'r rhan ganolog maen nhw wedi'i chwarae yn eu cymuned drwy gydol eu hanes. Bydd Dreamachine yn gweld y mannau hyn yn cael eu hail-ddychmygu fel math newydd o amwynder cyhoeddus, gan roi cyfle unigryw i gynulleidfaoedd rannu profiadau, deialog a chysylltiad.