1

Cyfranogiad Awyr Dywyll Mannau Gwyrdd yn yr Alban

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Green Space Dark Skies in Scotland' (PDF)

Mae 20,000 o bobl, gan gynnwys dros 1000 o bobl yn yr Alban, yn cael eu recriwtio i greu gwaith celf awyr agored ar raddfa fawr mewn 20 o dirweddau mwyaf eithriadol y DU ar gyfer Green Space Dark Skies, rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, o fis Ebrill i fis Medi 2022.

Yn yr Alban, bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yn rhai o leoliadau mwyaf godidog y wlad gan gynnwys Parc Cenedlaethol Cairngorms, a bydd mwy o leoliadau yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Bydd y digwyddiadau yn dod â chymunedau lleol ynghyd i greu profiad unigryw ym mhob lle a fydd yn cael ei ddal ar ffilm.

Bydd y digwyddiadau yn cael eu creu gan gyfranogwyr lleol, y cyfeirir atynt fel Lwmenyddion, wrth iddi nosi. Byddant yn cael eu harwain ar hyd llwybrau neu ddyfrffyrdd yn cario goleuadau clyfar a fydd yn galluogi coreograffi digidol wedi'i gipio ar ffilm, tra hefyd yn sensitif i'r amgylchedd yn ystod y nos. Bydd pob ffilm fer yn cynnwys straeon y bobl a'r lleoedd a fydd yn cael sylw a byddant yn cael eu darlledu ar-lein ar ôl y digwyddiad. Bydd Lwmenyddion hefyd yn cael eu hannog i rannu eu cysylltiadau eu hunain â'r dirwedd a'r ardaloedd lleol fel rhan o'u hymwneud.

Wedi'i ddatblygu gan beirianwyr graddedig yn Siemens yn arbennig ar gyfer y prosiect hwn, mae'r dechnoleg oleuo yn defnyddio goleuadau effaith isel rhaglenadwy diwifr presennol ac yn ymgorffori rhywbeth nad yw erioed wedi'i wneud o'r blaen: y gallu i'r goleuadau hyn gael eu hanimeiddio drwy geo-leoli, lle gellir adnabod sefyllfa pob golau mewn perthynas â'r lleill.