1

Cyfleoedd UNBOXED

Miloedd o gyfleoedd i fod yn rhan o raglen y DU gyfan y flwyddyn nesaf

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'UNBOXED Cyfleoedd' (PDF)

Mae miloedd o gyfleoedd i fod yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU y flwyddyn nesaf yn cael eu cynnig i bobl ledled y DU, gan gynnwys bwrsariaethau creadigol, hyfforddiant â thâl a datblygiad proffesiynol, cystadlaethau mewn ysgolion, a gweithgareddau lle mae’r cyhoedd yn cymryd rhan.

Maent yn gyfle i gymryd rhan, ac ennill sgiliau a phrofiad, yn un o’r dathliadau mwyaf o greadigrwydd mewn cenhedlaeth. Bydd UNBOXED yn cael ei gynnal ledled y DU yn 2022, ac mae wedi comisiynu deg prosiect creadigol mawr, gan ddod â digwyddiadau, gosodiadau a phrofiadau digidol sy'n hygyrch yn fyd-eang am ddim.

Mae rhagor o fanylion am y cyfleoedd hyn ar gael yn unboxed2022.uk/cy/cymryd-rhan

• Mae dros 850 o fwrsariaethau â thâl rhwng £100 a £25,000 ar gael i bobl greadigol rhwng 18 a 25 oed, i helpu i ddatblygu a chyflwyno Tour de Moon, gŵyl o fywyd nos a gwrthddiwylliant wedi'i hysbrydoli gan y Lleuad a'i chreu mewn cydweithrediad â'r Lleuad. Bydd Tour de Moon yn teithio mewn confoi o amgylch Lloegr gyda’r bwriad o ddychmygu dyfodol gwell ar gyfer pobl ifanc, ac mewn cydweithrediad â nhw. Mae'r dyddiadau cau yn gynnar yn 2022.

Cynigir bwrsariaethau i artistiaid, awduron, meddylwyr, gweithredwyr, gwyddonwyr, myfyrwyr, cerddorion sy'n datblygu, siaradwyr, cyfarwyddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr digwyddiadau byw, dylunwyr fflôt, dylunwyr gwisgoedd, DJs, perfformwyr, crewyr cynnwys digidol i greu digwyddiadau ffilm trochi, perfformio'n fyw, datblygu sgriptiau, dylunio fflôt a gwisgoedd, ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn Tour de Moon a bod yn DJ.

• Gwahoddir plant a phobl ifanc i gystadlu mewn cystadleuaeth farddoniaeth a chodio cyfrifiadurol ledled y DU ar gyfer plant 4 i 18 oed erbyn 19 Rhagfyr 2021. Mae'r gwobrau'n amrywio o gyfleoedd datblygu talent i'r cyfle i fod yn rhan o About Us, prosiect UNBOXED sy'n gweld cynulleidfaoedd yn cael eu trochi mewn 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes, o'r Glec Fawr hyd heddiw, gan ddefnyddio technoleg mapio amcanestyniadau arloesol ynghyd â barddoniaeth, cerddoriaeth a gwyddoniaeth.

• Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i fod yn un o 20,000 o Lwmenyddion a fydd yn creu gwaith celf awyr agored dramatig sy'n defnyddio miloedd o oleuadau wedi'u cynllunio'n arbennig i orchuddio mynyddoedd, llynnoedd a rhostir mewn 20 lleoliad ledled Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol y DU o fis Ebrill i fis Medi 2022. Bydd yr union leoliadau'n cael eu rhannu gyda'r Lwmenyddion ar y diwrnod. Mae'r prosiect, Green Space Dark Skies, yn defnyddio technoleg newydd i greu profiadau cynulleidfa ar-lein cymhellol.

Mae'r cyfleoedd hyn yn dilyn y lleoliadau proffesiynol a'r cyfleoedd datblygu ar gyfer dylunwyr, technolegwyr creadigol, animeiddwyr, cynhyrchwyr creadigol a dylunwyr sain, yn enwedig o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, a gynigir gan brosiect adrodd straeon trochi, StoryTrails. Mae'r rhain yn cynnwys lleoliadau â thâl gyda naw cwmni wedi'u comisiynu i gynhyrchu prosiect Ymchwil a Datblygu Realiti Rhithwir sy'n ail-ddehongli rhai o archifau ffilm a theledu mwyaf y DU o'r BFI a'r BBC yn ogystal â mentora a chymryd rhan yn natblygiad StoryTrails.

Wedi'i gynhyrchu gan rai o'r meddyliau disgleiriaf mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg, mae UNBOXED yn cynnwys prosiectau creadigol aml-safle a digidol mawr sy'n rhannu syniadau a phosibiliadau newydd ar gyfer y dyfodol. Cynhelir digwyddiadau a gweithgareddau rhwng 1 Mawrth a 2 Hydref 2022 – o'r Hebrides Allanol i Dover ac o Omagh i Abertawe, ac ar draws cyfryngau traddodiadol ac ar-lein.