Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Creadigrwydd yw eich pŵer arbennig newydd
Dr. Anne-Marie Imafidon MBE yn sôn am Greadigrwydd
- Date and time
-
29 Ionawr
- Publication date

Ydych chi'n greadigol? Yr ateb yw YDYCH, rydym ni i gyd yn greadigol!
A ninnau yn 2022, rydym yn tynnu sylw at ystod eang o leisiau ar draws UNBOXED i ddangos i chi pa mor eang yw creadigrwydd (paratowch i gael eich synnu) yn dechrau gyda Dr Anne-Marie Imafidon MBE.
Anne-Marie yw prif Swyddog Gweithredol Stemettes - menter arobryn sy'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod ifanc mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg - hi hefyd yw cyflwynydd y podlediad Women Tech Charge, ac mae hi wedi ymuno â Countdown Channel 4 fel eu rhifyddwr preswyl.
Shwmae Anne-Marie a Blwyddyn Newydd Dda! Dywedwch wrthym am y prosiect yr ydych chi'n ymwneud ag ef, Amdanom Ni, sy’n lansio UNBOXED yn Paisley ar 1 Mawrth?
Helo UNBOXED! About Us yw'r cyntaf mewn cyfres o 10 prosiect anhygoel a gomisiynwyd fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, dathliad anhygoel ledled y DU o greadigrwydd yn 2022. Ynghyd â The Poetry Society, cynhaliwyd cystadleuaeth animeiddio codio a barddoniaeth Scratch i bobl ifanc ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a'r Alban ar y thema 'cysylltedd a'r bydysawd'.
Anhygoel! Sut mae creadigrwydd yn chwarae rhan yn eich bywyd o ddydd i ddydd?
Ni fyddai gennyf fy swydd oni bai am greadigrwydd. Rydym yn creu rhaglenni, profiadau a chyfleoedd i bobl ifanc. Rydym yn cynhyrchu adnoddau ac yn dylunio gwaith ar gyfer ystod o dasgau ac yn cynnig cyngor a grwpiau cymorth gan gymheiriaid. Rwy'n cymryd rhan mewn sesiynau creadigol gyda fy nhîm yn ddyddiol - gan sefydlu atebion i broblemau a wynebwn a ffyrdd arloesol o wneud ein gwaith.
Pe gallech gydweithio ag unrhyw un, pwy fyddai hynny?
Haha - mae'r rhestr yn ddiddiwedd. P'un a yw'n gwmni bwyd mawr fel Nandos neu frandiau fel Nike. Byddem hefyd wrth ein bodd yn cydweithio â'r cannoedd o fodelau rôl yr ydym yn dwlu arnyn nhw - fel Dr Gladys West a'r Fonesig Stephanie Shirley. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gydweithio â nifer cynyddol o gwmnïau felly rwyf bob amser yn disgwyl partner cŵl arall rownd y gornel!
Yn eich barn chi, sut olwg sydd ar ddyfodol gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg (STEAM)?
STEAM yw'r dyfodol: creadigol ac anhunanol. Mae angen i ni hefyd ddangos i eraill y gall pob math o bobl wneud STEAM, felly nid ar gyfer y gwyddonydd ystrydebol yn unig y mae.
Mae Stemettes yn sefydliad dielw a grëwyd yn 2013 i sicrhau bod merched, menywod ifanc a phobl ifanc anneuaidd yn gwybod bod meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn opsiynau iddynt fel dewis gyrfa. Mae gennym brofiad o weithio gyda phobl o gymunedau incwm isel drwy ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd diddorol ar gyfer dysgu mewn ysgolion, digwyddiadau effeithiol a chyfryngau cynnwys ysbrydoledig. Ein nod yw ymgysylltu, hysbysu a chysylltu pobl ifanc sydd â diddordeb mewn pynciau STEAM a dangos iddyn nhw fod eu hangen yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae ein digwyddiadau am ddim, mae llawer o hwyl i'w gael a gallwn sicrhau bwyd da i chi hefyd!