Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Creu blodyn PoliNations sy'n unigryw i chi
a phlannu gardd rithiol wych
- Publication date
Mae gardd goedwig PoliNations yn dod yn fyw yng nghanol Birmingham
Casgliad epig o liw a natur yw’r rhyfeddod hwn yn datgelu straeon tarddiad y planhigion rydyn ni'n eu hadnabod mor dda - llygad y dydd, fioled, coed afalau, rhosod - mewn gwirionedd nid yw'r rhain, a'r rhan fwyaf o'r planhigion a welwn yn ein gerddi yn dod o'r DU. Maen nhw'n adrodd hanes teithiau, symudiadau, gwasgariad, a gwreiddiau newydd.
Felly pa mor cŵl fyddai hi pe gallech greu planhigyn a oedd wir yn eich adlewyrchu chi a'ch teimladau?
Wel, gallwch chi wneud hynny gyda'r ap PoliNations.
Drwy ateb 12 cwestiwn amdanoch chi'ch hun, mae'r ap clyfar hwn yn cyfleu eich canfyddiadau o’ch hun ac yn eu hailddychmygu fel hadau digidol. Ar ôl ei blannu mae'r hedyn yn datgelu eich blodau a gallwch chi eu plannu nhw yn unrhyw le yn y byd diolch i ryfeddodau realiti rhithwir. O liw dy flodyn i'r ffordd mae'n symud, mae dy flodyn yn unigryw i ti. Beth am eu rhannu a’u cymharu â'ch ffrindiau a'ch teulu i weld sut olwg sydd ar eu blodau nhw?
Gallwch gymysgu eich blodau ag eraill i groespeillio a chreu blodau newydd i greu eich gardd rithiol wych eich hun.
Lawrlwytho'r ap
Bydd yn rhan o gymuned newydd o dyfwyr digidol sy'n cymryd rhan yn y profiad ymgolli unigryw hwn.
![]() |
![]() |








