Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
CPD ar gyfer Athrawon
Edrychwch ar ein cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) ar-lein gan Dreamachine ar gyfer llesiant athrawon.
- Publication date

Yn dod yn fuan: Cyfleoedd Datblygu Proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gyfer Athrawon o Our Place in Space.
Dreamachine
Gweithgareddau Llesiant Creadigol yn yr Ystafell Ddosbarth
Mae tîm Dreamachine wedi ymuno â'r Coleg Addysgu Siartredig a'r elusen Cymorth Addysg i greu cyfres o dair sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) ar gyfer athrawon. Mae'r sesiynau yn agored i bob athro ac am ddim.
Mae'r weminar CPD am ddim hon yn cyflwyno enghreifftiau o weithgareddau ystafell ddosbarth y gallwch eu defnyddio i hyrwyddo llesiant. Bydd Shermaine Slocombe, artist, ymarferydd creadigol ac awdur adnoddau ysgol Dreamachine, yn dangos rhai o'i gweithgareddau o set o gynlluniau gwersi Dreamachine sy'n benodol ar gyfer iechyd a llesiant.
Arweinyddiaeth a Llesiant Athrawon
Gweminar CPD am ddim ar gefnogi llesiant athrawon
Mae'r tîm Dreamachine wedi ymuno â'r Coleg Addysgu Siartredig a'r elusen Cymorth Addysg i greu cyfres o dair sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) ar gyfer athrawon. Mae'r sesiynau yn agored i bob athro ac am ddim.
Mae'r weminar CPD am ddim hon yn canolbwyntio ar wyddoniaeth llesiant, ac ar ddulliau gweithredu gwahanol y gall uwch arweinwyr ysgolion, penaethiaid a llywodraethwyr eu defnyddio i gefnogi llesiant eu haddysgwyr. Cyflwynir y weminar gan yr Athro Fonesig Alison Peacock, Prif Swyddog Gweithredol y Coleg Addysgu Siartredig, a Sinéad Mc Brearty, Prif Weithredwr Cymorth Addysg, ac mae'n cynnwys sesiwn Holi ac Ateb.
Trafodaeth ar Lesiant Athrawon
Trafodaeth CPD am ddim ar reoli iechyd meddwl
Mae'r tîm Dreamachine wedi ymuno â'r Coleg Addysgu Siartredig a'r elusen Cymorth Addysg i greu cyfres o dair sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) ar gyfer athrawon. Mae'r sesiynau yn agored i bob athro ac am ddim.
Mae'r sesiwn CPD am ddim hon yn annog sgyrsiau dewr ar reoli iechyd meddwl ar gyfer athrawon. Mae'n canolbwyntio ar awgrymiadau llesiant ymarferol a ffyrdd ystyrlon y gallwch eu gwneud yn rhan o'ch bywyd pan fyddwch chi'n teimlo dan bwysau neu dan straen.