1

ASTRONOT NASA YN GWAHODD DAEAROLION I DDERBYN HER GREADIGOL OUR PLACE IN SPACE

Gwahoddir pobl o bob oed yng Ngogledd Iwerddon ac ar draws y byd i gymryd rhan yn heriau creadigol Our Place in Space.

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Rhaglen her greadigol gofodwr NASA' (PDF)

  • Mae astronotiaid NASA, Nicole Stott a Chris Hadfield a’r awdur Neil Gaiman a’r peiriannydd arobryn Ella Padmore ymhlith y rhai sy'n gosod heriau.
  • Mae’r heriau yn rhan o’r Rhaglen Ddysgu Our Place in Space, sy’n cynnwys adnoddau dysgu newydd sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 4.

“Byddwch yn aelod o’r criw yn hytrach nag yn deithiwr ar Long Ofod y Ddaear.” Dyna neges cyn astronot NASA Nicole Stott wrth lansio y cyntaf mewn cyfres o heriau creadigol o’r rhaglen Our Place in Space heddiw (13 Ebrill), gyda'r nod o gael pobl ar draws Gogledd Iwerddon ac ar draws y byd i feddwl am y bydysawd yr ydym yn byw ynddo.

Wrth sgwrsio â’r artist a’r awdur Oliver Jeffers, esboniodd Nicole fod dwy daith i’r gofod, 104 diwrnod ar fwrdd yr Orsaf Ofod Ryngwladol a’r profiad o gerdded yn y gofod wedi rhoi persbectif cosmig newydd iddi.

“Mae gwahaniaeth mawr rhwng bod yn deithiwr a bod yn aelod o’r criw, pa un a ydych yn y gofod, ar fwrdd gorsaf ofod neu i lawr yma ar ein llong ofod blanedol ni,” meddai. “Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig fy mod yn rhannu’r neges honno ar ôl dod adref. Nid yw’n ymwneud â fi yn fy milltir sgwâr fy hun yn unig. Mae angen i mi ystyried sut y mae popeth rwy’n ei wneud bob dydd yn effeithio ar fy nheulu, fy nghymuned, ac yna ar y daearolion i gyd a’r bywyd yr wyf yn rhannu’r blaned â nhw.