Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Celf mewn Mannau Cyhoeddus
Ail ddirprwyaeth ryngwladol i UNBOXED yn edrych ar gelf mewn mannau cyhoeddus
- Publication date

Mae UNBOXED, mewn partneriaeth â'r British Council, yn croesawu ail ddirprwyaeth ryngwladol sy'n dod â phobl ynghyd sy'n rhaglennu celf ryngddisgyblaethol, sy'n ymgysylltu’n gymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.
Maen nhw’n ymweld â sawl comisiwn UNBOXED rhwng 1 a 7 Medi, gan gynnwys PoliNations, ymyrraeth fawr mewn mannau cyhoeddus yn Birmingham, sy'n cynnwys coed pensaernïol enfawr a mwy na 6,000 o blanhigion. Wedi ei gyflwyno yn rhan o Ŵyl Birmingham 2022, mae PoliNations wedi trawsnewid Sgwâr Fictoria hanesyddol yn werddon yng nghanol y ddinas yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau lliwgar, a phob un am ddim.
Ymhlith prosiectau eraill UNBOXED y mae'r ddirprwyaeth yn ymweld â nhw mae StoryTrails, SEE MONSTER, a GALWAD.
Mae'r ddirprwyaeth yn edrych ar brosesau cyfranogol amrywiol a modelau o ymgysylltu dinesig o ddiwylliannau ledled y byd. Mae themâu rhaglenni yn cynnwys cynhyrchu gwaith rhyngddisgyblaethol ar raddfa fawr; meithrin ecosystemau creadigol mewn mannau dinesig; technoleg; hunaniaeth a chelf mewn mannau cyhoeddus; ymgysylltu â'r gymuned; a gwneud lleoedd.
Dyma'r ail ddirprwyaeth ryngwladol a drefnwyd gyda'r British Council. Roedd y gyntaf yn cynnwys ymweliad â gweithgaredd UNBOXED yn ystod Gŵyl Ryngwladol Caeredin.
"Gyda sawl prosiect UNBOXED yn digwydd rhwng mis Awst a mis Medi, mae'n amser perffaith i ddod â gweithwyr proffesiynol celfyddydol ac arweinwyr diwylliannol o bob cwr o'r byd at ei gilydd. Mae pob ymweliad yn cynnig fforwm amserol i fyfyrio ar wahanol syniadau a ffyrdd o weithio, cydweithio a swyddogaeth creadigrwydd wrth ddod o hyd i atebion i broblemau. Mae'r ymweliadau hyn hefyd yn datblygu’r gefnogaeth y mae'r British Council wedi'i rhoi i dimau UNBOXED er mwyn datblygu partneriaethau rhyngwladol yr ydym yn gobeithio y byddant yn parhau ymhell ar ôl i'n rhaglen ni ddod i ben." - Martin Green CBE, Prif Swyddog Creadigol UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.










Dirprwyaeth Gŵyl UNBOXED
Celf mewn Mannau Cyhoeddus:
- Mae Lim Jian Yi (Daniel) yn gweithio yn Kuala Lumpur, Malaysia. Mae Think City yn sefydliad adfywio ac effaith trefol a sefydlwyd ddeng mlynedd yn ôl.
- Mae Jadwiga Charzynska yn gweithio yn Gdańsk, Gwlad Pwyl. Penodwyd Jadwiga yn gyfarwyddwr Canolfan Celf Gyfoes LAZNIA yn 2004.
- Mae Phuong Nguyen yn gweithio yn Hanoi, Fietnam. Phuong yw is-gyfarwyddwr Think Playgrounds, menter gymdeithasol arloesol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu mannau cyhoeddus creadigol, ecolegol, a chynaliadwy mewn ardaloedd trefol.
- Mae Paul Tam yn gweithio yn Hong Kong, Tsieina. Ers mis Mawrth 2020, mae Paul wedi arwain Adran y Celfyddydau Perfformio (PA) fel Cyfarwyddwr Gweithredol Awdurdod Ardal Ddiwylliannol Gorllewin Kowloon.
- Mae Nindyani (Nin Djani) yn gweithio yn Jakarta, Indonesia. Nindyani yw Curadur Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus yn yr Amgueddfa Celf Fodern a Chyfoes yn Nusantara (Amgueddfa MACAN).
- Mae Anastasia Galimova yn gweithio yn Uzbekistan. Mae'n ymchwilydd sy'n arbenigo mewn barddoniaeth ar hyn o bryd ac yn gweithio yn yr ŵyl gelf ryngddisgyblaethol MOC FEST.
- Mae Godwin Constantine yn gweithio yn Colombo, Sri Lanka. Theertha International Artists Collective.
- Mae Gideon Obarzanek yn gweithio yn Melbourne, Awstralia. Gideon yw Cyd-Gyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr RISING.
- Mae Saima Zaidi yn gweithio yn Karachi, Pacistan. Mae Saima yn ddylunydd tecstilau, addysgwr ac artist yn Numaish Karachi - cydweithfa arobryn, ryngddisgyblaethol.
- Mae Omar Nagati yn gweithio yn Cairo, yr Aifft. Omar yw cyd-sylfaenydd CLUSTER - llwyfan dylunio ac ymchwil trefol annibynnol sydd wedi'i leoli yn Cairo, a sefydlwyd yn 2011.
- Mae Dominika Kluszczyk yn gweithio yn Wrocław, Gwlad Pwyl. Mae'n gynhyrchydd a darlithydd sy'n gysylltiedig â Chanolfan Gelf WRO cyd-grëwr IP Studio.
- Mae Faisal Kiwewa yn gweithio yn Kampala, Uganda. Ef yw Cyfarwyddwr Artistig Sefydliad Bayimba - sefydliad aml-gangen sy'n canolbwyntio ar gelfyddydau a diwylliant sy’n codi calon yn Uganda drwy gyfnewid diwylliannol a chreadigrwydd.