1

About Us yn dod i Luton

Dathlu Popeth Amdanom Ni About Us: yn dod i Luton rhwng 14 a 20 Ebrill

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Amdanom Ni yn dod i Luton' (PDF)

• Digwyddiad anhygoel am ddim yn yr awyr agored yn Luton

yn archwilio 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes

• Mae About Us yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, dathliad unwaith mewn oes o greadigrwydd yn digwydd ledled y DU yn 2022

• Sioeau byw wedi eu creu gan yr artistiaid fideo arobryn y tu ôl i Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012, Stemettes a The Poetry Society sy'n cynnwys cerddi ac animeiddiadau Scratch gan bobl ifanc o bob cwr o'r DU

• Côr B.I.G. Hat Factory, gydag aelodau o Luton Choral Society yn perfformio sgôr wreiddiol newydd sbon gan Nitin Sawhney CBE

• Cofrestrwch eich diddordeb nawr: Gall cantorion 18+ oed o bob profiad a gallu wneud cais o hyd i ymuno â Chôr B.I.G. Hat Factory ar gyfer perfformiadau byw About Us

• Bydd About Us o flaen Neuadd y Dref, Luton o 14 i 20 Ebrill

Dydd Iau 27 Ionawr 2022: Mae About Us; digwyddiad anhygoel yn yr awyr agored, na welwyd erioed o'r blaen, sy'n cyfuno perfformiadau byw a gosodiadau amlgyfrwng i ddathlu holl hanes y bydysawd o’r Glec Fawr hyd heddiw yn cyrraedd Luton ar 14 Ebrill 2022 ac am wythnos yn unig yn rhan o’r daith pum lleoliad ledled y DU.

Yn cynnwys cerddi ac animeiddiadau Scratch gan bobl ifanc o ysgolion yn Swydd Bedford, ar draws Lloegr a gweddill y DU, bydd y sioe tafluniad 25 munud yn trochi cynulleidfaoedd mewn taith gyffrous drwy 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes ers gwawr y bydysawd mewn dathliad o'r ffyrdd diddiwedd yr ydym yn cysylltu â'r cosmos, y byd naturiol, a'n gilydd.

About Us yw'r digwyddiad agoriadol ar gyfer UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, dathliad unwaith mewn oes o greadigrwydd sy'n digwydd ledled y DU eleni; cyfle digynsail i bobl ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau mawr ysbrydoledig a phrosiectau creadigol am ddim. Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn cael ei ariannu a'i gefnogi gan bedair llywodraeth y DU a chaiff ei gomisiynu a'i gyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Belfast, Cymru Greadigol, ac EventScotland.