1

About Us yn dod i Derry-Londonderry

Dathlu Popeth Amdanom Ni About Us: yn dod i Derry-Londonderry rhwng 15 a 21 Mawrth

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Amdanom Ni yn dod i Derry-Londonderry' (PDF)

• Digwyddiad anhygoel am ddim yn yr awyr agored yn Derry-Londonderry yn archwilio 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes

• Mae About Us yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, dathliad unwaith mewn oes o greadigrwydd sy’n digwydd ledled y DU yn 2022

• Sioeau byw wedi eu creu gan yr artistiaid fideo arobryn 59 Productions, a oedd yn gyfrifol am Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012, Stemettes a The Poetry Society sy'n cynnwys cerddi ac animeiddiadau Scratch gan bobl ifanc o bob cwr o'r DU

• Bydd Codetta, mewn cydweithrediad â Gŵyl Corau Rhyngwladol Dinas Derry, yn perfformio sgôr wreiddiol newydd sbon gan Nitin Sawhney CBE

• Bydd About Us ar Sgwâr Guildhall a Waterloo Place yn Derry-Londonderry rhwng 15 a 21 Mawrth

Ddydd Mawrth 8 Chwefror 2022L Bydd About Us, digwyddiad anhygoel yn yr awyr agored, na welwyd erioed o'r blaen, sy'n cyfuno perfformiadau byw a gosodiadau amlgyfrwng i ddathlu holl hanes y bydysawd o’r Glec Fawr hyd heddiw yn cyrraedd Derry-Londonderry ar 15 Ebrill 2022 am wythnos yn unig yn rhan o’r daith pum lleoliad ledled y DU.

Wedi’i greu gan 59 Productions, The Poetry Society a Stemettes, ac yn cynnwys cerddi ac animeiddiadau Scratch gan bobl ifanc o ysgolion yn Derry-Londonderry, ledled Gogledd Iwerddon a gweddill y DU, bydd y sioeau taflunio 25 munud yn trochi cynulleidfaoedd mewn taith gyffrous drwy 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes ers gwawr y bydysawd mewn dathliad o'r ffyrdd diddiwedd yr ydym yn cysylltu â'r cosmos, y byd naturiol, a'n gilydd.

About Us yw'r digwyddiad agoriadol ar gyfer UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, dathliad unwaith mewn oes o greadigrwydd sy'n digwydd ledled y DU eleni; cyfle digynsail i bobl ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau mawr ysbrydoledig a phrosiectau creadigol am ddim. Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn cael ei ariannu a'i gefnogi gan bedair llywodraeth y DU a chaiff ei gomisiynu a'i gyflwyno mewn partneriaeth â Cymru Greadigol, Cyngor Dinas Belfast ac EventScotland.