Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
About Us yn agor yn Paisley
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Amdanom Ni yn agor yn Paisley' (PDF)
Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, dathliad unwaith mewn oes o greadigrwydd sy'n digwydd ledled y DU eleni; yn lansio heddiw, 1 Mawrth, gydag About Us / Amdanom Ni, digwyddiad anhygoel yn yr awyr agored a grëwyd gan 59 Products, The Poetry Society a Stemettes yn archwilio 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes drwy’r ffyrdd diddiwedd yr ydym yn cysylltu â’r cosmos, natur, a’n gilydd.
Gan agor yn Abaty Paisley, yr Alban, bydd About Us / Amdanom Ni hefyd yn cael ei gyflwyno yn DerryLondonderry, Caernarfon, Luton a Hull ac yn cyfuno gosodiadau amlgyfrwng a pherfformiad byw i drochi cynulleidfaoedd yn hanes y bydysawd, o'r Glec Fawr hyd heddiw. Wrth iddi nosi, bydd tirnodau lleol yn cael eu trawsnewid yn ganfasau enfawr sy'n cyfuno animeiddio ysbrydoledig wedi'i fapio'n fyw gyda barddoniaeth, cerddoriaeth a chorau byw, gan gynnwys sgôr newydd gan Nitin Sawhney CBE a barddoniaeth gan Llŷr Gwyn Lewis, Jen Hadfield, Jason Allen-Paisant, Khairani Barokka, Grug Muse a Stephen Sexton.