1
Go

About Us - Llundain

Date and time

16-19 Tachwedd

Location

Tower of London

poster for About Us show at Tower of London

Bydd un o dirnodau mwyaf eiconig Llundain yn gartref i gomisiwn rhyfeddol UNBOXED yr wythnos nesaf – ond bydd angen i chi fod yn gloi i’w weld…

Amdanom Ni, taith ryfeddol trwy 13.8 biliwn o flynyddoedd o’n hanes, gan ddefnyddio mapio tafluniad, animeiddiad, cerddoriaeth fyw a mwy i adrodd stori bywyd, y bydysawd a’r cysylltiadau rhyngom ni.

Teithiodd y sioe gyfareddol hon drwy’r DU yn y gwanwyn a chafwyd canmoliaeth enfawr gan gynulleidfaoedd, ac mae’n cyrraedd Tŵr Llundain am encore hynod haeddiannol. Ar gyfer yr achlysur, bydd cantorion o bum lleoliad y daith yn dod ynghyd am y tro cyntaf – gan gynnwys aelodau côr Codetta o Derry-Londonderry, Hull Freedom Chorus, Glasgow City Chorus, Côr Dre a Chôr Eifionydd o Gaernarfon a BIG Hat Factory Choir o Luton.

Daw’r geiriau yn y tafluniad o feirdd pennaf y DU: Llŷr Gwyn Lewis, Jen Hadfield, Jason Allen-Paisant, Khairani Barokka, Stephen Sexton, a Grug Muse. Drwy gydol yr arddangosfa, bydd y corau yn perfformio gwaith gwreiddiol gan y cyfansoddwr a’r cerddor mawr ei glod a’i fri Nitin Sawhney CBE.

Gallwch weld Amdanom Ni yn Nhŵr Llundain o ddydd Mercher 16 tan ddydd Sadwrn 19 Tachwedd, gyda sioeau bob hanner awr rhwng 5.30pm a 9.30pm. Mae’r sioe 25 munud yn addas i bob oedran. Nid oes angen i chi gadw lle ymlaen llaw – ac mae mynediad am ddim.

Ac os ydych chi yna yn ystod y dydd, gallwch ymweld ag arddangosfa ddigidol Amdanom Ni am ddim o 11am, gydag animeiddiadau newydd a barddoniaeth a grëwyd gan blant ledled y DU.

Mynediad

Bydd perfformiad ymlaciol ddydd Iau 17 Tachwedd am 9pm. Rydym yn cynnig taflenni braille o’r testun yn y sioe, yn ogystal â disgrifiadau sain gan VocalEyes. Mae dolen sain a dehongliad BSL ar gael hefyd. Os oes angen unrhyw gymorth arall arnoch, siaradwch ag un o’n stiwardiaid neu anfonwch e-bost i aboutus22@fiftynineproductions.co.uk

 

Pryd a ble

Cyfeiriad: Tower of London, London EC3N 4AB

Date Time Location
16 Tachwedd 5.30pm - 9.30pm Tower of London, London
17 Tachwedd 5.30pm - 9.30pm Tower of London, London
18 Tachwedd 5.30pm - 9.30pm Tower of London, London
19 Tachwedd 5.30pm - 9.30pm Tower of London, London

Mae sioeau yn 25 munud o hyd ac yn rhedeg bob 30 munud o 5.30pm tan y sioe olaf am 9pm.

map of About Us at the Tower of London

Mae’r Tŵr wedi’i leoli o fewn pellter cerdded hawdd i nifer o orsafoedd trên gan gynnwys:

  • 5 munud o Gorsaf danddaearol Tower Hill
  • 10-15 munud o Gorsaf danddaearol Monument
  • 10-15 munud o Gorsaf London Bridge
  • 20 munud o Gorsaf Liverpool Street
  • 25 munud o Gorsaf London Charing Cross

Gallwch hefyd deithio ar gwch afon. Gwasanaethir Tower Pier gan gychod afon sy’n teithio o bileri amrywiol gan gynnwys Westminster a’r London Eye ac mae wedi’i leoli drws nesaf i fynedfa’r Tŵr.