1

About Us BEIRNIAID CYSTADLEUAETH

Y Bardd Llawryfog Simon Armitage a'r ddarlledwraig Rachel Riley yn ymuno â phanel beirniadu cystadleuaeth genedlaethol ar gyfer barddoniaeth ac animeiddio Scratch pobl ifanc

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'About Us' i'r wasg (PDF)

Ceisiadau buddugol i ymddangos yn About Us, digwyddiad awyr agored gwefreiddiol sy'n archwilio 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes, sef digwyddiad agoriadol UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU ym mis Mawrth 2022.

Mae 59 Productions Collective - Stemettes, The Poetry Society a 59 Productions - yn falch iawn o gyhoeddi enwau'r beirniaid sy'n dewis ceisiadau i gystadleuaeth farddoniaeth ac animeiddio Scratch About Us ar gyfer pobl ifanc rhwng 4 a 18 oed yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae About Us yn un o ddeg prosiect mawr sy'n ffurfio UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU - dathliad ledled y DU o greadigrwydd ac un o ddigwyddiadau mwyaf 2022.

Mae gan bobl ifanc tan hanner nos ddydd Sul 9 Ionawr 2022 i fod yn greadigol, ac anfon eu ceisiadau i mewn. Mae ein panel beirniadu yn edrych ymlaen yn fawr at ei gweld. Gan ddod â beirdd, addysgwyr, gwyddonwyr a thechnolegwyr ynghyd, bydd beirniaid cystadleuaeth About Us yn cynnwys:

Simon Armitage - Bardd Llawryfog

Ghislaine Boddington - cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol body>data>space ac Ymddiriedolwr Stemettes

Ifor ap Glyn - Bardd Cenedlaethol Cymru

Dr Anne-Marie Imafidon MBE - Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Stemettes

Kathleen Jamie - Scots Makar

Keith Jarrett - awdur, bardd, perfformiwr, addysgwr, enillydd Slam Barddoniaeth y DU a Rhyngwladol

Rachel Riley - awdur a darlledwraig teledu (Countdown, 8 Out of 10 Cats Does Countdown)

Stephen Sexton – bardd arobryn o Ogledd Iwerddon