1
Read

YNGLŶN Â UNBOXED LEARNING

Cyfleoedd dysgu am ddim ar brosiectau anhygoel, mewn ystafelloedd dosbarth a lleoliadau addysg eraill ledled y DU

Publication date

Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn cynnig rhaglen ddysgu ledled y DU ar themâu sy'n dod â STEM a'r celfyddydau at ei gilydd, wedi eu gwneud yn arbennig ar gyfer athrawon ac addysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau.

Mae gennym gannoedd o gynlluniau gwersi, gweithdai, tripiau ysgol ac adnoddau dysgu eraill wedi'u hysbrydoli gan y 10 prosiect anhygoel a gomisiynwyd gan UNBOXED.  Mae'r holl adnoddau dysgu hyn am ddim.

Mae adnoddau dysgu UNBOXED wedi'u cynllunio ar gyfer pobl ifanc, rhwng 4-19 oed, mewn ysgolion, colegau a lleoliadau dysgu amgen yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac i unrhyw un sy'n gweithio ynddynt.

Mae ein holl adnoddau dysgu wedi'u datblygu gan arbenigwyr addysgol sy'n gweithio gyda'r timau y tu ôl i'n 10 prosiect UNBOXED.

Mae pob adnodd yn cynnwys manylion am ei gysylltiadau â chwricwla ysgolion Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ynghyd â chanllawiau oedran a gwybodaeth allweddol arall.

Pori drwy ein Hadnoddau Dysgu