Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
20,000 YN CYMRYD RHAN MEWN CYFRIFIAD CANFYDDIAD
Sut fyddai’n teimlo i weld y byd drwy lygaid rhywun arall?
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "20,000 o bobl rhan mewn astudiaeth i ganfyddiad" (PDF)
20,000 O BOBL LEDLED Y BYD YN CYMRYD RHAN MEWN ASTUDIAETH WYDDONOL ARLOESOL I GANFYDDIAD
Mae rhaglen wyddoniaeth fawr newydd gan ddinasyddion, The Perception Census, yn arwain y ffordd gan feithrin dealltwriaeth ynghylch y ffyrdd unigryw yr ydym ni bob un yn profi’r byd
Mae degau o filoedd o bobl ledled y byd yn cymryd rhan yn The Perception Census, astudiaeth wyddonol barhaus a’i nod yw datgelu’r ffyrdd hynod ddiddorol ond anweledig y mae ein meddyliau i gyd yn unigryw - oherwydd hynny, hon yw’r astudiaeth fwyaf o’i math, a’r prosiect gwyddoniaeth gan ddinasyddion mawr cyntaf yn y byd i amrywiaeth ganfyddiadol.
Mae’r astudiaeth ar-lein, dan arweiniad ymchwilwyr blaenllaw’r byd, Yr Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol a Chyfrifol Anil Seth o Brifysgol Sussex a’r Athro Athroniaeth Fiona Macpherson o Brifysgol Glasgow fel rhan o raglen Dreamachine ac wedi’i gomisiynu gan UNBOXED Creadigrwydd yn y DU, yn ymdrin â chwestiynau am ganfyddiad sydd wedi drysu, a rhannu, athronwyr a gwyddonwyr am ganrifoedd.
Ers lansio ym mis Gorffennaf 2022, mae bron i 20,000 o bobl wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth, ac mae dadansoddiad cychwynnol o ymatebion yn dangos pa mor unigryw y gall byd mewnol pob person fod. Mae’r Athro Anil Seth a’r Athro Fiona Macpherson, ynghyd â’r tîm ymchwil, yn credu y gallai dysgu mwy am yr wyddoniaeth y tu ôl i’r gwahaniaethau hyn helpu i feithrin gostyngeiddrwydd ac empathi tuag at eraill, gan helpu i ddatblygu llwyfannau newydd ar gyfer dealltwriaeth a chyfathrebu sydd eu hangen yn gynyddol yn y byd rhanedig a phegynol sydd ohoni.
Dywedodd yr Athro Anil Seth: "Mae gan The Perception Census y potensial i ailysgrifennu ein dealltwriaeth o sut yr ydym ni bob un yn profi byd unigryw, ac i helpu cymdeithas yn ei chyfanrwydd i ddatblygu llwyfannau newydd ar gyfer empathi a chyfathrebu drwy wreiddio cydnabyddiaeth mai efallai nad y ffordd yr ydym ni’n gweld pethau yw’r ffordd y maen nhw’n eu gweld, a’n bod ni i gyd yn profi ein realiti cyffredin mewn ffyrdd gwbl amrywiol. Bydd y Cyfrifiad yn adnodd amhrisiadwy - ac yn rhoi map newydd i ni i’r dirwedd gudd hynod ddiddorol hon."