1
Read

18 miliwn yn ymgysylltu ag UNBOXED

Data wedi'i ryddhau ar gyfer UNBOXED: creadigrwydd yn y DU

Publication date

Crëwyd gan filoedd, Mwynhawyd gan filiynau

Wedi'i ddylunio i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb, mae UNBOXED wedi dod â phobl at ei gilydd mewn digwyddiadau byw ledled y DU, a thrwy gynnwys digidol ac wedi’i ddarlledu, gan ddenu cynulleidfa o dros 18 miliwn.

SEE MONSTER at night with fireworks in background. Pic by @nodpics.

Y penwythnos diwethaf, daeth ein rhaglen fyw anhygoel i ben ac rydym bellach yn gallu cadarnhau faint o bobl ledled y pedair gwlad sydd wedi profi a mwynhau UNBOXED dros y naw mis diwethaf.

  • Mae 2.8 miliwn o bobl wedi dod at ei gilydd mewn digwyddiadau byw mewn 107 o leoliadau ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru – llawer mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd gwledig ac arfordirol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda fel arfer gan fuddsoddiad diwylliannol mawr.
  • Mae 1.7 miliwn o blant, pobl ifanc a theuluoedd wedi cymryd rhan yn ein gweithgareddau dysgu a chyfranogiad – o gynlluniau gwersi, heriau dosbarthiadau a thripiau ysgol i gyfleoedd wedi'u teilwra ar gyfer athrawon a sioeau teithiol arbennig ledled y DU.
  • Mae 13.5 miliwn o bobl wedi mwynhau rhaglenni UNBOXED a grëwyd yn benodol ar gyfer y teledu ac ar-lein – nifer sy'n parhau i dyfu.

Mae llawer o'r lleoliadau ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn drefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig nad ydynt yn cael eu gwasanaethu cystal gan raglenni diwylliannol mawr. Mae'r rhaglen wedi archwilio syniadau a phosibiliadau newydd pwysig ar gyfer y dyfodol, o gynaliadwyedd i rym y meddwl dynol, i ffyrdd newydd arloesol o adrodd straeon.

A group of gardeners standing next to Dandelion Vertical Farm cube

Mae 10 comisiwn UNBOXED wedi gosod creadigrwydd ym mhob man, o ystafelloedd dosbarth i barciau cenedlaethol, y wlad i'r ddinas, y tir i'r môr, gofodau treftadaeth i'r byd digidol. Rydym wedi uno gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg (STEAM) mewn cyfuniadau a chydweithrediadau newydd annisgwyl.

  • Daeth About Us â 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes yn fyw
  • Gwahoddodd Dandelion bobl ar draws yr Alban i hau, tyfu a rhannu bwyd, cerddoriaeth a syniadau
  • Archwiliodd Dreamachine rym syfrdanol y meddwl dynol
  • Teithiodd GALWAD 30 mlynedd i'r dyfodol i sbarduno sgyrsiau am newid hinsawdd
  • Creodd Green Space Dark Skies weithiau celf hudolus a chynnwys cofiadwy ar y teledu mewn tirweddau naturiol trawiadol
  • Ail-greodd Our Place in Space gysawd yr haul mewn modd epig ar y Ddaear
  • Dathlodd PoliNations harddwch ac amrywiaeth pobl a phlanhigion y DU
  • Rhoddodd SEE MONSTER fywyd newydd mawreddog i blatfform alltraeth Môr y Gogledd wedi'i ddatgomisiynu
  • Gwnaeth StoryTrails ddatgelu hanesion cudd ein trefi a'n dinasoedd
  • A gwnaeth Tour de Moon fuddsoddi mewn talent greadigol ifanc

Mae UNBOXED wedi cyfrannu at dirwedd greadigol y DU drwy fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd a thrwy gefnogi cyfleoedd cyflogaeth a datblygu. Mae'r rhaglen wedi archwilio syniadau newydd drwy ddull cydweithredol unigryw traws sector o raglenni a oedd yn cynnwys ymchwil a datblygiad wedi'i ariannu yn ystod y pandemig, gan gefnogi llawer o sefydliadau creadigol a gweithwyr llawrydd drwy'r cyfnod hwnnw.

Children in a field holding lamps

Cafodd pobl greadigol o feysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a'r celfyddydau (STEAM) gefnogaeth i ddylunio a chyflwyno'r rhaglen o niwrowyddonwyr, astroffisegwyr, rhaglenwyr cyfrifiadurol a pheirianwyr strwythurol i feirdd, cerddorion, artistiaid a dylunwyr setiau i greu prosiectau arloesol. Mae pobl ifanc a phobl greadigol sy'n dod i'r amlwg hefyd wedi cael cyfleoedd hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol ac i ennill profiad gwerthfawr.

Dal mwy i ddod...

Nid yw'r stori UNBOXED ar ben eto. Gallwch barhau i archwilio apiau am ddim, lawrlwytho adnoddau dysgu am ddim a gwylio ffilmiau a chynnwys darlledu a digidol eraill, gan gynnwys:

Ar ôl blwyddyn sydd wedi gweld ein rhaglen yn cyrraedd dros 85 o wledydd, bydd ein partneriaethau rhyngwladol yn gweld prosiectau eraill yn digwydd yn 2023 cyn belled i ffwrdd â Fietnam, Affrica Is-Sahara a Malaysia, ac mae mwy ar y gweill ar gyfer Awstralia a'r Unol Daleithiau.

a group of children crowded around the Mars installation

"O'r cychwyn cyntaf, gwnaeth UNBOXED weithredu dull gwahanol o gomisiynu, gan fuddsoddi mewn cydweithrediad newydd rhwng sefydliadau ac unigolion gan ddefnyddio'r arloesedd creadigol o fewn meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, yn ogystal â'r celfyddydau. "

— Phil Batty, Executive Director, UNBOXED: Creativity in the UK

"Mae'r effaith bersonol ar y miloedd o bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o UNBOXED wedi bod yn ysbrydoledig. Mae UNBOXED yn falch o'r rhan gref y mae wedi'i chwarae yn adferiad COVID yn y DU. "

— Dame Vikki Heywood DBE, Chair of Board, UNBOXED: Creativity in the UK