1

1 miliwn o Gynulleidfa ar gyfer Our Place in Space

Llwybr cerfluniau Our Place in Space yn denu cynulleidfa o 1 miliwn yn ystod y 7 mis cyntaf

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "1 miliwn o Gynulleidfa ar gyfer Our Place in Space" (PDF)

  • Mae Llwybr Cerfluniau sydd wedi’i ddylunio gan yr artist Oliver Jeffers a’r astroffisegydd yr Athro Stephen Smartt, a’i gyflwyno gan dîm creadigol dan arweiniad Nerve Centre, wedi denu  miliwn o ymwelwyr mewn pedair dinas yn y DU.

  • Cymerodd 28,000 o fyfyrwyr a 2,200 o athrawon ran mewn gweithdai creadigrwydd digidol cysylltiedig.

  • Mae ap Realiti Estynedig wedi’i lawrlwytho mewn 150 o wledydd ledled y byd

  • Bydd Our Place in Space yn dychwelyd at ei gartref yn Amgueddfa Drafnidiaeth Ulster a llwybr arfordirol North Down yn gynnar yn 2023.

Mae trefnwyr Our Place in Space, comisiwn blaenllaw Gogledd Iwerddon o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, wedi datgelu bod model epig 10km o hyd, ar raddfa o gysawd yr haul, ac wedi’i ddylunio gan yr artist arobryn Oliver Jeffers gyda’r astroffisegydd yr Athro Stephen Smartt, wedi denu cynulleidfaoedd byw o dros 1 miliwn ers ei lansio gyntaf yn Derry~Londonderry, yn gynharach eleni.

Datgelodd cynhyrchwyr y prosiect, Nerve Centre, y ffigurau ysgytwol wrth i Our Place in Space ddod a’i osodwaith diweddaraf i ben yn Lerpwl yn dilyn ymweliadau llwyddiannus â Derry~Londonderry, Belfast a Chaergrawnt.

Mae’r ffigyrau wedi eu rhyddhau fel rhan o ddata ehangach sy’n nodi effaith UNBOXED. Wedi’i ddylunio i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb, daeth UNBOXED â phobl at ei gilydd drwy gymysgedd o ddigwyddiadau byw, cynnwys digidol a chynnwys wedi’i ddarlledu a chyrhaeddodd gynulleidfa gyfunol o dros 18 miliwn ar gyfer ei 10 comisiwn.

Er bod y cyhoeddiad yn nodi diwedd digwyddiadau byw eraill UNBOXED, bydd Our Place in Space yn parhau yn 2023 pan fydd yn dychwelyd yn hir-ddisgwyliedig i’w gartref yng Ngogledd Iwerddon. Bydd cyfle i gynulleidfaoedd weld y gosodwaith yn Amgueddfa Drafnidiaeth Ulster a llwybr arfordirol gogledd Down pan fydd yn agor ym mis Chwefror.